Gwasanaeth Cymorth fel bo’r Angen Sir Gaerfyrddin
The Old Parish Hall, Church Street, Llanelli, SA15 3GA
Sir Gaerfyrddin
carmarthenshirefloatingsupport@thewallich.net
01554 701800
Mae gwasanaeth cymorth fel bo’r angen Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth yn gysylltiedig â thenantiaethau i bobl sy’n byw yn ne Sir Gaerfyrddin
Mae’r cymorth sydd ar gael i helpu pobl yn
- Cynnwys cymorth ac arweiniad ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu tenantiaethau
- Er enghraifft rheoli arian
- Camddefnyddio sylweddau neu alcohol
- Problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- Lles emosiynol a rheoli tenantiaeth
Rydym yn darparu cymorth fel bo’r angen i bobl sy’n byw mewn llety rhent preifat, tai sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai, perchen-feddianwyr a’r rhai hynny sydd heb gartref sefydlog.

Ein gwasanaethau:
- Helpu pobl i gael llety parhaol a chynaliadwy
- Datblygu sgiliau byw’n annibynnol
- Cyngor a chymorth â budd-daliadau
- Cysylltu â gwasanaethau/asiantaethau perthnasol eraill
- Cyfeirio at asiantaethau/gwasanaethau eraill lle bo’n briodol
- Problemau â chymdogion
- Cefnogi mynediad at weithgareddau cymunedol
- Hwyluso mynediad at wasanaethau eraill fel gofal iechyd, hyfforddiant neu addysg
Mae gan y tîm 21 o uwch weithwyr cymorth a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth fel bo’r angen yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag asiantaethau statudol ac unrhyw un a all gefnogi cleientiaid.
Ein horiau agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener
9 – 4:30
Atgyfeiriadau
Gellir cael mynediad uniongyrchol at atgyfeiriadau o’r prosiect, drwy anfon e-bost at carmarthenshirefloatingsupport@thewallich.net nau ffonio 01554701800
Neu gan Adran Dai Cyngor Sir Gaerfyrddin, asiantaethau partner a hunanatgyfeiriad
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â ni.

