Gwasanaeth Ataliol Cymunedol Sir Gaerfyrddin
The Old Parish Hall, Church Street, Llanelli, SA15 3GA
Sir Gaerfyrddin
llanellifloatingsupportservice@thewallich.net
01554 701 800
Cymorth ataliol sy’n gysylltiedig â thai yn ardal Gwendraeth, Llanelli

Gall Tîm Ataliol Cymunedol The Wallich ddarparu cymorth lefel isel sy’n gysylltiedig â thai, gan gynnwys cyngor ar faterion tai, budd-daliadau a mwy i bobl sy’n byw yn ardal Gwendraeth.
Mae ein tîm yn gweithio yn ardal Gwendraeth, Llanelli, gan gefnogi pobl sydd angen cymorth ac arweiniad un-tro neu dymor byr ar faterion tai.
Beth i’w ddisgwyl:
- Cyngor ar dai
- Cyngor ar fudd-daliadau
- Cyngor am ddyledion
- Cyfeirio at grwpiau ac asiantaethau eraill
Angen cymorth?
Os ydych chi’n chwilio am gymorth ac yn gweithio yn ardal Gwendraeth (Sir Gaerfyrddin), cysylltwch â’n tîm.
01554 701 800
Mae Gwasanaeth Ataliol Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn rhan o’r gwasanaeth ataliol sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â POBL, Mencap, Adferiad ac Age Cymru.
