Gyda chefnogaeth barhaus gan The Wallich, mae Gaynor yn magu hyder ac yn cwrdd â phobl newydd.
Darllenwch ei stori.
“Cefnogodd The Wallich fi pan fuodd fy mhartner farw.
Dwi’n byw mewn byngalo, gan fod gen i broblemau anabledd.
Roedden ni [Gaynor a’i phartner] yn byw mewn tŷ i ddechrau, gyda 14 o risiau o’r ardd at ddrws y ffrynt.
Torrodd fy mhartner asgwrn y glun, ac roedd ar ddialysis dri diwrnod yr wythnos. Roedd rhaid i’r gwasanaeth ambiwlans ei gario i fyny ac i lawr y grisiau.
Fe symudon ni ym mis Medi. Fe aeth i’r ysbyty ym mis Hydref ar ôl mynd yn sâl, ac ni ddaeth allan.
Bu farw ym mis Rhagfyr. Felly, chafodd e erioed gyfle i gael profiad go iawn o fyw yno.
Dw i’n byw ar fy mhen fy hun nawr. Dwi’n 49 oed. Mae gen i ofalwyr yn dod i’m helpu, ond dwi’n ceisio gwneud cymaint ag y galla i fy hun.
Mae ffrindiau’n mynd a dod. Mae rhai ffrindiau yno am byth. Mae rhai nad ydw i wedi’u gweld nhw ers Covid.
Roeddwn i’n arfer mynd allan yn aml. Ond wedyn doeddwn i heb fod allan am fisoedd a misoedd.
Roeddwn i’n meddwl, ‘Alla i ddim gwneud hynna, does gen i mo’r hyder i fynd’, wyddoch chi?
Mae’n gas gen i ddydd Sadwrn a dydd Sul am nad oes unman i fynd. Dwi’n dyheu am ddydd Mawrth fel bod gen i rywle i fynd.”
“Yr ysbyty ddywedodd wrtha i [am The Wallich].
A’r staff, maen nhw wedi bod yn help mawr.
Fe wnaeth The Wallich fy nghefnogi pan fuodd fy mhartner farw, achos roedd rhaid i fi gael help i fynd o un budd-dal i un arall.
Roedd hynny’n waith caled oherwydd roedden nhw [DWP] eisiau canslo hyn, parhau â’r llall. Wedyn, roedd rhaid i fi ffonio’r adran dai.
Felly, fe wnaethon nhw [The Wallich] hynny i gyd gyda mi. Fe wnaethon nhw helpu gyda’r holl ffurflenni.
Mae gen i gerdyn bws nawr. Doedd gen i ddim un o’r blaen.
Doedd gen i ddim awydd ar y dechrau [mynd i grŵp llesiant The Wallich], wyddoch chi, roeddwn i’n nerfus am gwrdd â phobl, gan fy mod i ar faglau.
Fe ddwedais i, ‘Iawn’ ac wedyn fe ddwedais i, ‘O na, dydw i ddim yn mynd heddiw’. Ond fe ddwedon nhw, ‘Galwa heibio unrhyw bryd’.
Ond ar y dechrau, doedd gen i ddim hyder oherwydd fy maglau. Dw i’n meddwl bod pobl yn edrych, yn syllu arnoch chi ac yn eich barnu chi.
Mae pobl yn eich barnu chi os oes gennych chi anableddau.
Dw i’n aros am glun newydd. Mae’n fy ngwneud i’n ddigalon awn.
Dwi’n poeni sut bydda i yn y dyfodol. Ydw i’n mynd i orfod cadw’r rhain [y baglau] am byth?”
“Fe ddywedodd Steph [Uwch Weithiwr Cymorth yn The Wallich], ‘Mae gennym ni’r grŵp rhandiroedd yma’. Fe ddwedais i, ‘Alla i ddim garddio’, ond dywedodd, ‘Mae gennym sied, dere lawr i siarad â phobl’.
Dwi wedi bod yn dod nawr ers pedair neu bum wythnos. Mae’n fy nghael i allan i siarad â phobl.
Dw i’n dod [i’r rhandir] ar ddydd Llun, mae dydd Mercher yn ddiwrnod celf ac wedyn dydd Iau yma [yn y rhandir] eto.
Byddwn i’n dod 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn wedi bod yn agoriad llygad i fi, a dwi’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn parhau.
Rydyn ni wedi bod yn gwneud celf graffiti. Fe wnes i dŷ adar gwpl o wythnosau’n ôl. Wythnos yma, rydyn ni’n gwneud crochenwaith, gan wneud potiau allan o glai.
Pan ddes i yma am y tro cyntaf, fi oedd y person tawel, yn eistedd yn y gornel heb ddweud dim. Ond dwi yn hollol wahanol erbyn hyn. Nawr dwi’n teimlo’n hyderus gyda phawb.
Rai dyddiau dw i’n dod yma ac mae yma bobl wahanol nad ydw i wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Ac mae hynny’n grêt. Rydw i’n hapus yn cwrdd â phobl newydd nawr.
Yr unig reswm y byddwn i’n rhoi’r gorau i ddod yw pe bai’n cau.”
“Alla i ddim aros i weld y llysiau’n tyfu.
Ychydig wythnosau’n ôl, daeth menyw i wneud cawl llysiau y tu allan.
Os oes gennym ni’r llysiau iawn, fe allwn ni wneud hynny eto ein hunain. Dwi’n edrych ymlaen at hynny.”
Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.