Rhandir newydd i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn rhoi help llaw i fyd natur yn Llanelli

14 Jun 2022

Diolch i becyn gardd newydd  a roddwyd gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, mae gerddi The Wallich yn mynd i ffynnu

Ni yw un o’r elusennau digartrefedd cyntaf yn y wlad i elwa o gynllun ‘Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur’ eleni.

Yn Llanelli, bydd gweithwyr cymorth a defnyddwyr gwasanaeth The Wallich yn creu gardd ar gyfer bywyd gwyllt a thyfu bwyd ar blot mawr o randir yn Ward Tyisha.

Mae Scott, sy’n cael cymorth gan The Wallich, yn egluro sut mae’r rhandir newydd yn helpu ei les:

“Rwy’n dod lan yma i fynd mas o’r fflat a gweithio. Rwy’n mwynhau’r gwaith.”

Yn ogystal â’r manteision amlwg o ran lles, bydd ein cleientiaid yn cael cyfle i ddysgu am fanteision amgylcheddol cadw gardd ac ennill sgiliau newydd y gallan nhw eu defnyddio fel hobi neu mewn swydd bosib yn y dyfodol.

Creu gweithgareddau ystyrlon

Pan gafodd The Wallich y safle, dechreuodd y grŵp drwy glirio mieri, adeiladu sied a gwneud y safle’n fwy defnyddiol ar gyfer tyfu bwyd.

Ers hynny, mae’r grŵp wedi tyfu ffrwythau a llysiau a’u coginio gyda’i gilydd gan ddefnyddio’r cynnyrch i wneud prydau fel cawl.

Mae gweithgareddau amrywiol eraill wedi cael eu cynnal ar y safle, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a lles, yn ogystal â thyfu bwyd. Mae hyn yn cynnwys dathliadau noson tân gwyllt, cwrs mewn ysgrifennu creadigol a chelf.

textimgblock-img

Un o uchafbwyntiau’r grŵp oedd Wythnos Wyddoniaeth Prydain, oedd yn cynnwys gweithgareddau ar ynni adnewyddadwy a gwyddoniaeth bwyd.

Mae cadw pobl yn brysur a chynnig balchder dysgu sgil newydd yn rhan o helpu pobl i symud ymlaen gyda’u bywydau ar ôl bod yn ddigartref.

Drwy ein cymorth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, mae ein timau’n gweithio’n galed i gynnig mannau diogel, cydweithrediad ac ymddiriedaeth i helpu pobl i ffynnu. Bydd y rhandir newydd yn gwneud hynny.

Gweld rhandir The Wallich

 

Er mai’r rhandir yn Llanelli yw’r prosiect mwyaf ar y cyd â Mannau Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus, mae chwech o brosiectau eraill The Wallich ar draws Cymru wedi derbyn pecynnau, gan eu galluogi i greu mannau newydd a diogel i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae’r holl blanhigion, offer a deunyddiau’n cael eu darparu am ddim gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Y bwriad yn y tymor hir yw ehangu plot Llanelli, tyfu ein cynnyrch ein hunain a darparu blychau o ffrwythau a llysiau iach i ddefnyddwyr y gwasanaeth ar draws y sir.

Dywedodd Steph, Uwch Weithiwr Cymorth o The Wallich:

 “Roedden ni’n ddigon lwcus i gael pecyn Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r rhandir yn lle diogel iawn i bobl ddod i eistedd a sgwrsio, gwneud ffrindiau newydd a chael rhannu unrhyw emosiynau.

Rydyn ni’n bwriadu cynnal gweithdai celf a cherddoriaeth, gwneud cawl a dosbarthu bocsys llysiau i’r gymuned.

Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud cyn i ni gyrraedd yno, ond mae pawb yn rhan o’r gwaith ac allen ni ddim gofyn am fwy.

Rydw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf rydyn ni’n ei dyfu yma yw cymuned.”

Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Dros y deuddeg mis, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar garreg eu drws. Ond rhaid cymryd camau ar frys i wrthdroi ei ddirywiad.

Rydyn ni’n wrth ein boddau bod gan The Wallich gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn drwy’r fenter Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur’ ehangach gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.

Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.

I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus

Tudalennau cysylltiedig