Stori Jamie

13 Sep 2021

Ar ôl 10 mlynedd o ddibyniaeth ar gyffuriau a thair dedfryd o garchar, roedd Jamie yn barod i newid.

Gyda chymorth The Wallich yn Aberystwyth, mae Jamie yn aros am gyfle i adsefydlu ac mae’n awyddus i helpu pobl eraill sy’n gaeth i gyffuriau.

Darllenwch ei stori

“Roeddwn i ar y strydoedd ac yn y carchar oherwydd problemau dibyniaeth.

Rydw i wedi bod i mewn ac allan o The Wallich ers rhai blynyddoedd.

Aeth fy nibyniaeth ar gyffuriau o ddrwg i waeth. Roeddwn i’n byw gyda fy nghariad; roedd yn berthynas gyd-ddibynnol.

Chwalodd y berthynas felly deuthum yn ôl i The Wallich.”

Cefnogaeth gan The Wallich

“Mae gen i apwyntiadau bob dydd, o bobman. Maen nhw [The Wallich] yn fy atgoffa o’r hyn sydd wedi’i drefnu ar gyfer y diwrnod.

Mae’n help aruthrol; ac yn faich enfawr oddi ar eich ysgwyddau.

Gall ymddangos yn ddibwys, hynny yw rhywun yn eistedd mewn swyddfa yn yr adeilad rydych chi’n byw ynddo. Efallai y byddai rhai pobl yn teimlo bod hynny’n tarfu arnyn nhw, ond dydy hynny ddim yn wir.

Dydyn nhw ddim yno i darfu arnoch.

Dydyn nhw ddim yno i adrodd am yr hyn rydych chi’n ei wneud.

Petawn yn ceisio ymdopi heb gymorth staff The Wallich, mi fyddwn i’n llawer iawn arafach, dwi’n gwybod hynny.”

Caethiwed

“Dechreuais drwy ysmygu canabis. Dechreuais fynd i bartïon yn ystod fy arddegau. Roeddwn i’n cymryd ecstasi a sbîd.

Dechreuodd y PTSD effeithio arna i yn fy 20au cynnar. Rhoddodd y meddyg faliwm imi ar bresgripsiwn, felly roeddwn i’n cymryd llawer ohono.

Maen nhw’n cael eu galw’n ‘happy pills’, ac maen nhw’n dda iawn am wneud i chi anghofio eich problemau. Maen nhw’n gallu gwneud i chi golli eich swildod a gwneud pethau gwirion nad oes angen i chi eu gwneud.

Yn ddiweddarach, dechreuais gymryd crac a heroin a dyna sut aeth pethau i’r pen. Dyna’r brig. Dyna pryd y bydd yn chwalu popeth.

Roedd gen i berthynas dda, tŷ da, roedd gen i arian ac fe gollais bopeth. Bydd yn eich gadael yn wag.

Pan oeddwn i’n gaeth i gyffuriau, roeddwn i’n credu na allwn ofyn am help rhag ofn i’r gwasanaeth prawf ddod i wybod a’m gyrru’n ôl i’r carchar. Y gwir ydy, dydyn nhw ddim yn gweld pethau fel ‘na, ond rydych chi’n credu eu bod nhw.

Rydw i wedi troseddu, ond dydw i ddim yn credu fy mod yn droseddwr. Mae fy nghalon a’m moesau yn y lle iawn – heb gyffuriau yn fy mywyd.

Roedd pethau wedi digwydd i mi pan oeddwn i’n ifanc. Mae’n debyg mai dyna pam roeddwn i wedi troi at gyffuriau pan oeddwn i’n oedolyn.

Dwi’n 34 oed rŵan. Mae’r problemau hyn wedi digwydd. Fedra i ddim newid hynny.

Mae’n rhaid i mi ddysgu sut i fyw ochr yn ochr efo hynny. Fedra i ddim cymryd alcohol na chyffuriau i wneud i mi deimlo’n well.”

Adsefydlu

“Rwy’n aros am gyfle i adsefydlu ar hyn o bryd. Rydw i wedi bod yn brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau ond dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n mynd i unman.

Dydy hynny ddim yn fywyd. Rydych chi’n cymryd alcohol neu gyffuriau am eich bod chi’n teimlo mor isel am yr hyn sydd wedi digwydd, ond rydych chi’n gwneud pethau’n waeth.

Ers i mi roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau, anaml iawn y bydda i’n meddwl am fy ngorffennol.

Mae angen i mi ddysgu’r sgiliau i fyw gweddill fy mywyd heb y pethau hyn.

Mae adsefydlu yn gyfnod preswyl o dri mis. Mae’n fferm fach. Rydych chi’n mynd yno i fyw ac nid oes temtasiynau o’ch cwmpas.

Mae hynny’n apelio ata i, mynd i fferm fach ymhell o bob man, gweithio ar broblemau, ystyried fy mywyd a rhoi pethau heibio.

Galla i ddechrau ail hanner fy mywyd. Dyna sut dwi’n ei gweld hi. Galla i gau llyfr cyfan ar yr hanner hwnnw ac agor un newydd.

Mae’n anodd, ond dydy o ddim yn amhosibl. Pan fydd pethau’n dechrau mynd yn ddrwg a’ch bod yn cyrraedd y gwaelod isaf, dyna pryd rydych chi’n dechrau teimlo eich bod eisiau newid.

Rydych chi’n meddwl, ‘Alla i ddim byw fel hyn; alla i ddim gwneud hyn; dydw i ddim yn hoffi hyn’.

Dydy o ddim am ddigwydd dros nos. Mae’n llawer o waith. Dydy o ddim am fod yn hwyl a sbri, ond bydd yn werth chweil pan alla i fyw gweddill fy mywyd heb ddibyniaeth ac yn hapus.”

Gwneud newidiadau personol i’ch ffordd o fyw

“Rydw i wedi bod yn cymryd camau breision. Roedd pawb roeddwn i’n eu hadnabod yn cymryd cyffuriau. Mae’n rhaid i mi wneud llawer o bethau a dyna beth rydw i’n ei wneud nawr, a chwrdd â phobl newydd nad ydynt yn gaeth i gyffuriau.

Pan fydda i’n mynd i gyfarfodydd, rwy’n cwrdd â phobl sydd wedi dod allan yr ochr arall.

Mae’n cymryd amser i newid pawb rydych chi’n eu hadnabod, a chwrdd â ffrindiau newydd. Rydw i’n gwneud popeth y gallaf i roi’r cyfle gorau i mi fy hun.”

Cael effaith ar bobl eraill

Roedd pethau wedi digwydd pan oeddwn i’n ifanc a doeddwn i ddim yn gwybod sut i ymdopi â hyn yn fy 20au cynnar a doeddwn i ddim yn gallu ei brosesu.

Petawn i wedi gallu mynd i’r afael â hyn ychydig yn fwy pan oeddwn yn iau, efallai na fyddwn i wedi colli’r 10 mlynedd diwethaf i ddibyniaeth ar gyffuriau.

Dydych chi ddim yn cael digon o wybodaeth am fod yn gaeth i gyffuriau yn yr ysgol. Yn sicr chefais i ddim addysg am gaethiwed.

Rydych chi’n gwybod bod cyffuriau’n ddrwg, mae pawb yn gwybod hynny oherwydd dyna sut maen nhw’n ei bortreadu.

Ond dydych chi ddim yn gwybod os ydych chi’n cymryd crac neu heroin y byddwch yn colli popeth yn ôl pob tebyg, a bydd yn eich dinistrio.

Byddwch yn lwcus os gallwch chi ddod allan yr ochr arall.

Y peth mawr i mi yw gweithio gyda phobl ddigartref, pobl sy’n gaeth i gyffuriau, pobl ifanc, i geisio cyfleu’r neges.

Dydy o ddim cymaint amdana i erbyn hyn oherwydd rydw i wedi trechu fy nibyniaeth, rydw i wedi cyrraedd pen fy nhaith. Rydw i wedi llithro’n ôl dros y blynyddoedd ond rydw i ar y llwybr iawn erbyn hyn.

Yr hyn sy’n bwysig yw’r bobl sy’n dod ar eich hôl. A throsglwyddo’r help iddyn nhw. Rwy’n dal yn ifanc. Os rhoddaf fy mryd ar hyn, byddaf yn rhagori arno.

Ar ôl imi orffen fy nghyfnod adsefydlu, mae’n brofiad arall y gallaf ei rannu. Dyna’r peth pwysicaf imi wrth symud ymlaen.

Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda. Rydw i’n cael llawer o foddhad ohono.

Dyna’r unig beth mae rhywun eisiau mewn bywyd mewn gwirionedd ynte, sef bod yn hapus. Dyna’r unig beth dwi’n gofyn amdano. Dydw i ddim eisiau bod yn gyfoethog, dim ond yn hapus a bodlon.

Rwy’n gobeithio cael cyfle i adsefydlu a dechrau gweddill fy mywyd.

Rydw i wedi treulio blynyddoedd yn y carchar. Bu bron iawn i mi farw sawl gwaith. Dwn i ddim sut ydw i’n dal yn fyw. Rydw i wedi deffro mewn gofal dwys ychydig o weithiau.

Mae rheswm pam rydw i’n dal yma, rydw i wir yn credu hynny. Yr unig beth sy’n rhaid i mi ei wneud ydy dod o hyd iddo.”

Dysgwch fwy am ein prosiectau yn Aberystwyth

Tudalennau cysylltiedig