Stori Joe

15 Jun 2023

Trodd bywyd Joe ben ei waered dros nos, lle roedd ei ymddygiad troseddol yn golygu y bu’n rhaid iddo adael ei swydd fel gweithiwr banc

Oherwydd ei wytnwch ei hun, a chymorth wedi’i deilwra gan The Wallich, mae Joe bellach ar y trywydd i ddechrau pennod newydd a chadarnhaol yn ei fywyd.

Darllenwch ei stori

“Yn 2017, roeddwn i’n gwneud yn dda yn fy swydd mewn banc, roedd gen i fywyd cymdeithasol a theuluol gwych, ac roedd gen i bopeth roedd ei angen arnaf mewn bywyd.

Ond oherwydd salwch, fy iechyd meddwl, a’r ffaith fy mod yn defnyddio sylweddau, llwyddais i golli popeth o fewn dau fis.

Roeddwn i’n ddigartref ac yna’n wynebu dedfryd o 24 mis. Dyma fy nhro cyntaf yn y carchar.

Yn ystod fy nghyfnod yn y carchar, dechreuais ddarllen llawer am Seicoleg, Troseddeg a Chwnsela; er mwyn deall beth sydd wedi mynd o’i le yn fy mywyd, ac er mwyn dygymod â sut roeddwn i wedi gadael i hyn ddigwydd.

Hefyd, fe wnes i gais am swydd fel Mentor, lle treuliais y 12 mis nesaf yn cefnogi carcharorion eraill gyda’u sgiliau Saesneg, Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth.

Roeddwn i wrth fy modd gyda’r swydd, ac roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi dod o hyd i bwrpas mewn bywyd.

Yn 2019, roeddwn wedi gorffen fy nedfryd heb unrhyw gyfleoedd gwaith nag unrhyw fath o gynllun.

Oherwydd fy euogfarnau, treuliais 12 mis caled yn chwilio am waith, nes i mi ddod o hyd i swydd mewn ffatri leol.”

Cymorth hyblyg, wedi’i deilwra

“Fe wnaeth fy Swyddog Prawf fy nghyfeirio at brosiect BOSS [rhaglen cyflogadwyedd a llesiant The Wallich ar gyfer pobl â chefndir troseddol] er mwyn fy helpu i gael fy ngherdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS).

I dechrau, cefais help gan BOSS i gael fy ngherdyn CSCS er mwyn gwella fy siawns o gael gwaith, ac yna cefais y cyfle i archwilio fy opsiynau o gael gwaith yn y sector gwaith cymorth.

textimgblock-img

Gan fod gweithio yn y diwydiant gwaith cymorth wastad wedi bod yn rhywbeth o ddiddordeb i mi, a’r ffaith bod gen i gymwysterau a phrofiadau newydd y tu cefn i mi, teimlais ei bod hi’n amser i mi adael fy swydd yn y ffatri.

Yn dilyn yr holl gymorth a’r arweiniad a gefais, dechreuais fy swydd gyntaf mewn llety dros dro gyda The Wallich.

Roedd hyn yn darparu’r holl wybodaeth a’r arbenigedd roeddwn i eu hangen i allu defnyddio fy mhrofiad i gefnogi pobl mewn angen, ac i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill.”

Newid cyfeiriad

“Ar ôl treulio chwe mis fel Gweithiwr Cefnogi yn yr hostel, rydw i nawr yn rhan o dîm BOSS!

Erbyn hyn, rydw i wedi magu teulu, ac mae gen i ymdeimlad enfawr o gyflawniad a boddhad am y tro cyntaf erioed.

Mae wedi bod yn daith anhygoel hyd yma ac rydw i wrth fy modd yn cefnogi fy nghleientiaid.

Mae’n anhygoel gallu helpu pobl eraill i gyflawni eu nodau a gwella eu llesiant; pobl sydd efallai wedi bod mewn sefyllfa debyg i’r un roeddwn i ynddi rai blynyddoedd yn ôl.

Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn, ac mae hyn yn dangos y gall unrhyw un newid eu bywydau er gwell a chyflawni unrhyw nod!”

Y bennod nesaf

“Rydw i bellach yn astudio er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chymwysterau.

Rydw i’n ddigon ffodus o gael partner yn gefn i mi.

Rydw i’n mynd i barhau i weithio’n galed, i astudio, i fwynhau bywyd, ac i ddechrau fy swydd newydd, fel tad!

Pwy a ŵyr beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond mae un peth yn sicr; rydw i’n edrych ymlaen ato.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig