Stori Kingsley: rheoli newid trwy bandemig

30 Jul 2021

Pan siaradon ni â Kingsley ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2020, roedd wedi bod yn gweithio gyda’n prosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS) ac wedi cael gwaith amser llawn.

O gwblhau cymhwyster diwydiannol i obaith gwell ar gyfer y dyfodol, darganfyddwch sut mae Kingsley yn dod yn ei flaen flwyddyn yn ddiweddarach.

Edrych yn ôl dros y flwyddyn

“Roeddwn i’n teimlo fel pe bawn i wedi llwyddo mewn rhywbeth [yn cwblhau tocyn Taflwr – hyfforddiant diwydiannol] ac yn gallu mynd ymlaen i bethau gwell. Mae’n debyg ei fod wedi rhoi hyder i mi. Roeddwn i’n teimlo’n isel cynt, yn ymdrechu mor galed i symud ymlaen ond yn ei chael hi’n anodd.

Roedd y tocyn Taflwr yn rhoi ffocws i mi achos, pan roeddwn i’n labro, roeddwn i bob amser yn edrych ar y craeniau a’r peiriannau eraill ac yn teimlo bod y bobl hynny yn well.

textimgblock-img

Dwi’n dal i deimlo bod gen i lawer i’w oresgyn. Dwi’n gweld pobl eraill, hogiau iau, yn cael cyfleoedd ac yn gwneud rolau dwi’n gwybod y baswn i’n gallu eu gwneud.

Dwi bob amser yn cael adborth da gan y rheolwyr, dydyn nhw ddim yn cwyno am fy ngwaith, ond weithiau dwi’n adeiladu waliau o’m cwmpas.

Dydy o ddim yn help fy mod i wedi casglu nodweddion drwg tra ar y tu mewn, dwi’n gallu bod yn oer ac yn un anodd agosáu ato. Dwi’n ei chael hi’n anodd ffitio mewn o hyd, yn arbennig gan fod gen i enw mor anghyffredin.

Dwi’n teimlo bod pobl yn siarad tu ôl i fy nghefn; maen nhw’n gwybod am fy nghefndir.

Pan roeddwn yn y carchar, ces i waith mwy dibynadwy ac fe newidiodd y ffordd roeddwn i’n edrych arnaf i fy hun. Roedd gen i rywbeth i’w gyflawni a dwi wedi ceisio cynnal hynny.”

Byw trwy bandemig

“Wel, ces i dipyn o waith gan amlaf ond cyfnodau o ddiweithdra o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2021. Mae’n siŵr fy mod i allan o waith am tua phedwar mis.

Roedd hi’n dda cael y gefnogaeth ar y ffôn [gan The Wallich] a theimlo ychydig o egni positif.

Pan rydych chi ar y ffôn, rydych chi’n gallu cael sgwrs am edrych ymlaen. Dechreuon ni siarad am NVQ roeddwn i eisiau ei ennill ond doeddwn i ddim yn siŵr os byddai BOSS yn gallu fy helpu i eto.

Fe gysylltodd fy ngweithiwr cymorth fi gyda phobl eraill oedd yn gallu helpu ac fe ddechreuon ni siarad â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol (GSGD); sylwais ar y gwahaniaeth yn syth bin.

Mae’n siŵr oherwydd COVID a phethau eraill, roedd hi’n ddechrau reit anodd. Ffoniais fy ngweithiwr cymorth ac roeddwn i’n teimlo’n negyddol iawn.

Wrth siarad trwy bethau, llwyddais i gael persbectif gwahanol ar bethau.”

Rheoli newid ac emosiynau

“Dwi’n galed iawn arnaf fy hun am gamgymeriadau’r gorffennol o hyd. Mae cyfnodau yn aros gyda mi ac weithiau dwi’n meddwl yn negyddol iawn.

Dwi’n ceisio bod yn fwy positif ac mae cael yr arian ar gyfer yr NVQ wedi fy helpu i ail-sbarduno’r posibilrwydd o hyfforddi a’r awch i lwyddo.

textimgblock-img

Yr hyn dwi’n ei roi mewn rŵan, ydy’r hyn y caf i’n ôl yn nes ymlaen.

Mae adegau pan dwi wedi mwynhau gweithio ar y craeniau’n arw, pan mae gen i lwythi 10 tunnell uwch fy mhen a dwi’n gweithio ar brosiect £55 miliwn yng nghanol Abertawe yn edrych dros bawb.

Dwi’n meddwl i fi fy hun, does dim llawer o bobl sydd wir yn gallu gweithio ar y peiriannau hyn na chael y dewrder a’r gallu i wneud y rôl hon. Dwi’n teimlo’n falch ohonof i fi fy hun ‘mod i wedi llwyddo’n hynny o beth.

Mae cadw’r tocyn Taflwr yn fy ysgogi i symud ymlaen – rydych chi angen profi eich hun drwy’r amser.

Dwi’n aelod brwd o gym yr YMCA – mae’n cael ei ddefnyddio gan lawer o gyn-droseddwyr. Dwi’n siarad â llawer o’r hogiau sydd newydd gael eu rhyddhau. Dwi wedi dweud wrthyn nhw am The Wallich, yn arbennig BOSS.

Dwi wedi ceisio eu helpu nhw drwy ddefnyddio fy mhrofiad i a dweud wrthyn nhw am fynd i’r byd adeiladu a siarad gyda BOSS. Dw i’n dweud wrthyn nhw er ‘mod i’n gwneud rôl labrwr rŵan, dwi’n gweithio o gwmpas craeniau ac wedi gwireddu fy mreuddwyd o weithio ar graeniau.”

Uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

“Dwi nôl fel labrwr ar y funud a dwi wedi rhoi saib i’r NVQ, ond dwi’n gwybod y byddaf i’n ei ‘neud o.

Dwi’n panicio am y gwaith theori, ond dwi’n gwybod bod hyn lawr i fi rŵan – dydy pobl ond yn gallu dy helpu di hyd at ryw bwynt, os nad ydw i’n ymdrechu, chaf i ddim byd yn ôl.

Mae gen i’r ysfa i wneud yn well o hyd. Dwi eisiau mynd ar y peiriannau mwy a gwell, a dwi’n gwybod y bydd hynny’n cael mwy ohonof i.

Hynny yw, gwthio fy hun ymlaen o hyd – mae gan bawb rwystrau yn eu bywydau a dydw i ddim gwahanol. Weithiau, dwi’n meddwl bod fy rhwystrau i’n fwy na rhai pawb arall ond nid dyna’r achos bob amser.

Mae cymaint o bobl yna i gynnig cymorth – dwi wedi sylweddoli hynny rŵan. Mae’n fater o jyst gwybod lle i edrych, pwy i fynd ato a beth i ofyn amdano.

Dwi wedi bod yn siarad â Gyrfa Cymru ac mae posibilrwydd y byddaf i’n gallu cael mynediad at arian y gronfa Gweithredu ar Ddiswyddiadau i wneud mwy o docynnau ar gyfer llwythwr telesgopig ac efallai tocyn dympar hefyd.

Dw i’n gwybod beth i’w ddisgwyl rŵan ‘mod i wedi gweithio gyda BOSS a GSGD felly dwi’n llawn cyffro wrth feddwl am yr hyn y gallai hyn gynnig i mi.pandemic

Dwi’n credu mwy rŵan, bod dyfodol gwell i mi yn yr hir dymor a dyna dwi’n anelu ato. I aros ar safle ac ennill mwy o gymwysterau, efallai symud ymlaen i fod yn fforman neu’n oruchwyliwr.”

Dywedodd Mark James, Rheolwr Rhaglen Gyflogadwyedd yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol;

Rydyn ni yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â phrosiect BOSS a chefnogi Kingsley i wella ei ragolygon gyrfaol.

Rydyn ni wedi gwirioni ar sut mae Kingsley wedi symud ymlaen; mae’n esiampl dda i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau a sialensiau tebyg ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gefnogi ar ei siwrnai yrfaol wrth iddo symud ymlaen.”

Darganfyddwch ragor am ein prosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS)

Tudalennau cysylltiedig