Stori Robert

03 Mar 2020

Mae Robert wedi cael help gan dîm Cymorth Symudol Sir Gaerfyrddin y Wallich yn dilyn cyfnod anodd yn ei fywyd.

Darllenwch sut llwyddodd Robert i oresgyn ei broblemau tai a’i gymhlethdodau iechyd i ddilyn y trywydd iawn eto.

Ble’r oeddech chi cyn cael cymorth gan ein gwasanaethau?

Rydw i’n dod o’r Alban yn wreiddiol ond rydw i wedi byw yng Nghymru ers dros 24 o flynyddoedd.

Roeddwn i’n berchen ar fy nghartref fy hun ac yn gweithio ym maes Gwerthiant.

Roedd fy mhriodas yn chwalu ac roedd fy iechyd yn dod yn broblem. Arweiniodd hyn at broblemau gyda fy morgais, gan fod angen i mi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.

Roeddwn i’n ansicr ynghylch y gwasanaethau a oedd ar gael i’m cefnogi.

Sut mae’r Wallich wedi eich helpu chi?

Mae’r Wallich wedi fy nghefnogi i fagu hyder eto a dilyn y trywydd iawn.

Maen nhw wedi gweithredu ar fy rhan ac wedi fy annog pan fo angen.

Maen nhw wedi gwrando arna i ac wedi fy nghefnogi yn unol â hynny.

Mae’r Wallich wedi fy helpu i sicrhau eiddo a oedd yn addas ar gyfer fy iechyd gan wneud yn siŵr bod gen i arian a bwyd pan ddaeth fy nghyflog i ben.

Maen nhw wedi bod yn wych ac yn gefnogol iawn drwy gydol blynyddoedd anoddaf fy mywyd.

Ble’r ydych chi arni nawr?

Rydw i nawr mewn byngalo wedi’i addasu ac yn teimlo’n ddiogel.

Rydw i wedi ymgartrefu’n dda gyda chymorth y Wallich.

Mae fy mudd-daliadau wedi’u trefnu’n gywir ac mae hyn wedi fy helpu yn ôl ar fy nhraed – yn llythrennol ac yn drosiadol.

Rydw i nawr yn talu fy miliau a’m dyledion i gyd. Rydw i’n teimlo erbyn hyn fy mod i’n gallu rheoli fy arian.

Rydw i’n cerdded ar fy nghoes brosthetig gyda chymorth ffyn cerdded, ar ôl cael tynnu fy nghoes chwith oherwydd cymhlethdodau iechyd.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Hoffwn i allu cerdded eto heb gymorth.

Rydw i’n gwneud yn dda ond mae gen i dipyn o ffordd i fynd. Rydw i’n mynd i apwyntiadau ysbyty bob mis i gael Ffisiotherapi.

Rydw i eisiau mynd yn ôl i’r gwaith.

Unwaith bydda i’n fwy sefydlog ar fy nghoes brosthetig, bydda i’n ystyried hyn ymhellach.

Tudalennau cysylltiedig