Stori Rose

07 Jul 2023

Ar ôl profi trais domestig, roedd Rose angen help i fyw bywyd annibynnol a di-ofn

Ers mis Ionawr 2022, mae Rose, sy’n 31 oed, wedi bod yn cael cymorth gan Wasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen The Wallich.

Darllenwch ei stori

Y digwyddiad

“Roedd popeth yn uffern cyn i mi ddod yma.

Roeddwn i’n 30 pan ddigwyddodd y digwyddiad [profi trais domestig]. Difethodd fy Nadolig.

Cafodd ei arestio ac yna cafodd ei ddedfrydu ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Mae gen i orchymyn atal yn ei le, felly pan fydd yn dod allan o’r carchar, does ganddo ddim hawl i ddod i Gwmbrân.

Y mis nesaf, mae’n dod allan. Dim ond blwyddyn a gafodd.

Yr ydw i wedi dechrau teimlo panig eto, ond rwy’n ceisio’i atal. Rydw i wedi cael gwybod beth i’w wneud os ydw i’n ei weld.”

Dod i hyd i fan diogel

“Cefais fy rhoi mewn llety Gwely a Brecwast ym Mhont-y-pŵl i ddechrau, oherwydd doedd dim lleoedd yn ardal Torfaen, ond wedyn cefais fy rhoi yng Nghoed Efa.

Roeddwn i mewn llety dros dro yng Nghoed Efa. Roedd hi’n braf yno ond doedd dim Wi-Fi, roeddwn i’n defnyddio mannau cyswllt penodol yn aml.

Roeddwn i mewn llety dros dro am bythefnos.

Pan glywais i fy mod i’n cael fy lleoli lle rydw i nawr, roeddwn i wedi colli fy nain ddau ddiwrnod cyn hynny, felly roedd yn gymysgedd go iawn o emosiynau.

Doedd fy nain erioed wedi cael gwybod a gafodd ei anfon i garchar ai peidio, oherwydd ei bod wedi marw ym mis Mawrth.”

Cymorth gan The Wallich

Mae tîm The Wallich yn Nhorfaen wedi helpu Rose i reoli arian, gan ei chyfeirio at sefydliadau eraill, rheoli ei chyflyrau iechyd, cyfryngu, magu hyder ac annibyniaeth, a llawer mwy.

Gofynnwyd i Rose sut mae The Wallich wedi ei helpu:

“Does dim modd ei roi mewn geiriau.

Help gyda chyllidebu, mae gen i arfer o orwario. Fe wnaethon nhw helpu gyda llawer o broblemau rydw i wedi’u cael, yn enwedig gyda’r person rydw i’n byw gyda.

Rydw i’n byw mewn llety sy’n cael ei rannu ar hyn o bryd. Mae gen i fy ystafell wely fy hun ac rydw i’n rhannu ystafell ymolchi a chegin.

Fe wnaethon nhw [The Wallich] roi cyfle i mi fynd i weithgaredd canŵio. Roedd yn eithaf brawychus.

Rydw i eisiau gweithio ond, ar hyn o bryd oherwydd yr hyn a ddigwyddodd gyda fy nghyn-bartner, rwy’n teimlo dan dipyn o straen gyda phethau.

Rydw i wedi gwneud Pecyn Cymorth Adfer a chwrs Perchnogi fy Mywyd gyda Chymorth i Fenywod Cyfannol. Roedd yn ddefnyddiol.

Fe wnes i Perchnogi fy Mywyd ar ôl o’r digwyddiad ddigwydd ac yna’r Pecyn Cymorth Adfer tua thri mis wedyn.

Mae wedi rhoi sgiliau i mi ac mae’n fy helpu i ddelio ag emosiynau.”

Cynnal ffordd o fyw sefydlog

“Rydw i mewn lle cyfforddus ar hyn o bryd.

Chwarae gemau ydw i’n bennaf. Pan mae gwaith i’w wneud yn y tŷ, rwy’n ei wneud.

Nid oedd [chwarae gemau] yn arfer bod yn ddiddordeb ond mae’n fy helpu i fynd drwy’r diwrnod pan fydda i’n teimlo’n ddiflas.

Rydw i’n mynd i galas nofio. Roedd gen i lawer o tlysau, ond fe wnaeth fy nghyn-bartner eu taflu.

Rydw i’n rhan o glwb nofio i bobl anabl ac rydyn ni’n cystadlu bob blwyddyn. Rydw i wedi bod yn rhan o Ddolffiniaid Gwent ers tua 7 mlynedd.

Rydw i’n cael fy ngwneud yn hyfforddwr nofio oherwydd rydw i bob amser yn helpu’r nofwyr nad ydyn nhw’n gwybod sut i nofio’n iawn.

Ac rydw i’n cystadlu fy hun hefyd.

Mae gen i gystadleuaeth ar y gweill felly rydw i’n mynd i ymarfer heno. Fel arfer, rydw i’n nofio hyd y pwll bedair gwaith.

[Pan ofynnwyd a fyddai hyn byth yn troi’n swydd] rydw i eisiau cadw hynny fel rhywbeth rydw i’n ei fwynhau.

Rydw i ar y rhestr symud ymlaen. Rwy’n 12fed ar y rhestr.

Yn ddelfrydol, hoffwn fflat un ystafell wely. Byddai’n rhaid i mi brynu’r holl ddodrefn. Mae gen i soffa a wardrob fy nain ond maen nhw i gyd yn lle fy nghyn-bartner a dydw i ddim yn gallu eu cael ar hyn o bryd.

Rydw i wedi dweud fy mod i eisiau aros yng Nghwmbrân, dyma lle mae fy nheulu felly dydw i ddim eisiau teithio’n rhy bell.

Rydw i’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar fy nhraed.

Rydw i’n agos at fy mam. Mae’n cyrraedd yno gyda fy nhad. Fy nhad oedd y rheswm dros adael fy nghartref.

Roeddwn i’n cael fy nhrin fel caethwas. Roeddwn i, fy nau frawd a fy chwaer yno a fi oedd yr unig un y gofynnwyd i mi wneud unrhyw waith.

Roedd hi felly o hyd.

Yn y diwedd, roeddwn i wedi cael llond bol ac fe wnes i gerdded allan. Byddai waeth i mi heb fod wedi cerdded allan oherwydd mae’n debygol iawn y byddai o wedi fy nghicio i allan. Dywedodd wrth ei ffrind ‘Roedd wedi cael digon arna i’.

Rydyn ni’n dod ymlaen yn well pan nad ydw i’n byw yno.

Fy rhieni oedd y bobl gyntaf i mi fynd atyn nhw pan ddigwyddodd [y digwyddiad].

Wel, yr heddlu oedd y bobl gyntaf i mi fynd atyn nhw mewn gwirionedd.

Daeth fy rhieni i wybod am bump yn y bore beth oedd wedi digwydd oherwydd bod yr heddlu wedi mynd â fi atyn nhw.”

Edrych ymlaen

“Rydw i eisiau ceisio teneuo a pheidio bod allan o wynt pan fydda i’n cerdded i fyny’r bryniau.

Hoffwn gael swydd a gwell addysg. Fe wnes i fethu fy arholiadau i gyd, felly fe hoffwn i roi trefn ar hynny.

Hoffwn wneud gwaith glanhau neu ofal plant. Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda phlant oherwydd rydw i’n treulio llawer o amser gyda fy nith wyth oed.”

Mae Joel, ein Uwch Weithiwr Cymorth yn Nhor-faen, wedi bod yn gweithio gyda Rose ers mis Tachwedd 2022.

Dywedodd:

Yn ystod fy nghyfnod yn cefnogi Rose, rydw i wedi ei gweld yn magu hyder, yn dod yn fwy agored ac eisiau ymgysylltu. Mae Rose yn hoffi cael naws gymunedol o’i chwmpas ac yn mwynhau bod yn gymdeithasol.

Mae Rose wedi symud i eiddo erbyn hyn, mae’n fflat hyfryd ac mae hi’n setlo i mewn. Rwy’n ei chefnogi i sefydlu ei biliau cyfleustodau ar hyn o bryd.

Mae mor gadarnhaol gweld fod Rose wedi symud ymlaen yn bositif o’n tŷ cymorth, i reoli ei thenantiaeth ei hun erbyn hyn.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen we Byw Heb Ofn i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig