Caerdydd yn dod yn ddinas anweledig

Blog gan Julia Thomas, Rheolwr Gwasanaeth Anweledig (Caerdydd)

30 Jan 2023

Mae Dinasoedd Anweledig yn fenter gymdeithasol arloesol sy’n hyfforddi pobl sydd wedi profi digartrefedd i dywys ymwelwyr o amgylch eu dinasoedd eu hunain ar droed.

Mewn partneriaeth â Dinasoedd Anweledig, mae The Wallich yn lansio Anweledig (Caerdydd)

Dinasoedd Anweledig

Dewch i adnabod yr atyniad newydd a chyffrous hwn i dwristiaid sy’n dod i Gaerdydd.

Dyma Julia, arweinydd y prosiect

textimgblock-img

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae gen i brofiad fel Cyfarwyddwr Theatr a Chynhyrchydd ac fel Rheolwr Teithiau.

Gyda fy swydd i, rydw i wedi bod yn ffodus i deithio i’r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr ledled Ewrop.

Dim ots ble rydw i wedi bod, rydw i wedi sylwi bod digartrefedd yn aml yn cael ei anwybyddu wrth i bobl dynnu lluniau o henebion a panoramâu anhygoel – heb edrych yn iawn ar bwy arall sydd yn y llun.

Mae’r unigolion hynny’n cael eu hanwybyddu’n rheolaidd gyda phobl yn cerdded heibio fel pe na baent yn bodoli.

Mae pobl ar y strydoedd yn aml yn teimlo’n anweledig i’r cyhoedd yn gyffredinol, yn ynysig ac yn unig o’r ardaloedd lle maen nhw’n byw

Atebion creadigol

Mae unigolion yn ffynnu pan fyddant yn teimlo eu bod yn perthyn.

Pan fyddwch chi’n rhan o rwydwaith cefnogi ehangach, mae’n helpu i dynnu sylw at eich cryfderau, meithrin eich hyder a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei gyfrannu at y gymuned rydych chi’n byw ynddi.

Rydw i wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn dod i adnabod The Wallich. Rydw i wedi bod yn dod i rai o’r prosiectau creadigol ar draws y ddinas ac wedi cael cyfle i ganu, peintio a dychmygu gyda defnyddwyr ein gwasanaeth.

textimgblock-img

Rwyf hefyd wedi bod yn gwrando’n astud ar wybodaeth a phrofiad Zakia, Sylfaenydd Dinasoedd Anweledig, wrth iddi rannu’n hael sut mae Dinasoedd Anweledig yn gweithio mewn dinasoedd eraill fel Glasgow a Manceinion.

Mae ethos cyffredin i rymuso unigolion y mae digartrefedd yn effeithio arnynt, i gymryd camau cadarnhaol drwy hyfforddiant cefnogol a chyfleoedd i gysylltu ag eraill.

Un o nodau pwysig y prosiect hwn yw cysylltu unigolion a oedd yn arfer teimlo nad oedd croeso iddyn nhw ym maes treftadaeth a’r sector twristiaeth.

Drwy adrodd straeon yn rymus, rydyn ni’n gobeithio newid canfyddiadau a chodi ymwybyddiaeth ynghylch sut gall y cyhoedd ehangach gael effaith gadarnhaol ar ddigartrefedd.

Sut bydd Anweledig (Caerdydd) yn gweithio

Ein nodau ar hyn o bryd yw cydweithio ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg.

Bydd y ddau sefydliad yn chwarae rhan fawr yn y rhaglen hyfforddi a chyfleoedd parhaus i dywyswyr dan hyfforddiant gael mynediad at dreftadaeth.

Rydyn ni’n gobeithio lansio ein taith gyntaf ddechrau’r gwanwyn a chreu bwrlwm ar draws y sectorau twristiaeth a lletygarwch yng Nghaerdydd.

Bydd y tywyswyr yn dylunio ac yn datblygu eu teithiau eu hunain, yn eu geiriau eu hunain, gan ganolbwyntio ar bwnc sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae teithiau Anweledig mewn dinasoedd eraill wedi cynnwys chwaraeon, troseddau a chosbau, pensaernïaeth a mwy.

Rwy’n gobeithio y bydd y tywyswyr rydyn ni’n eu recriwtio yn cael blas ar y gwaith, neu y bydd yn dod yn gatalydd i ddod o hyd i gyflawniadau a chynnydd mewn mannau eraill.

Bwriad bod yn dywysydd oedd bod yn gyfle tymor byr i mi, ond roeddwn i wrth fy modd â’r gwaith, a phymtheg mlynedd yn ddiweddarach, rydw i dal yn mwynhau ei wneud. Gobeithio y bydd hyn yn newid bywydau pobl eraill, gan ei fod wedi newid fy mywyd i.

Os hoffech chi wybod mwy am Anweledig (Caerdydd) neu sut gallwch chi gefnogi ein nodau, mae croeso i chi gysylltu â mi ar Julia.Thomas@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig