Er mwyn cyflawni’r gred hon, mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ddileu’r rhwystrau afresymol sy’n atal pobl rhag cael gafael ar gymorth digartrefedd, fel y meini prawf ‘angen blaenoriaethol’, yr angen am gysylltiad lleol wedi’i ddogfennu, dyfarniad o ‘fwriad’, ac yn benodol yr amod mewnfudo sy’n rhoi caniatâd i aros ond ‘Dim Hawl i Arian Cyhoeddus’ (NRPF).
Nodwn adolygiad diweddar y Llywodraeth o angen blaenoriaethol, ac ailddatganwn ein cred fod y dystiolaeth o’r Alban a mannau eraill yn glir.
Drwy ddiddymu’r profion angen blaenoriaethol, bydd llai o unigolion yn gweld eu hunain yn syrthio drwy’r bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd.
Dylid hefyd ddileu’r gofyniad presennol i awdurdodau lleol ganfod a oes gan unigolyn sy’n ceisio cymorth digartrefedd gysylltiad lleol, ac a ddaeth yn ddigartref yn ‘fwriadol’ ai peidio.
Yn aml, mae rhesymau da iawn pam y gallai rhywun adael cartref yn fwriadol a symud i ardal newydd; er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn dianc rhag ffrindiau neu deulu caotig, neu’n gadael amodau byw anniogel.
Er ein bod yn cydnabod nad yw’r cyfrifoldeb dros gyfreithiau mewnfudo wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, credwn fod y camau a gymerwyd yn ystod pandemig y coronafeirws i gartrefu pob unigolyn ar sail iechyd cyhoeddus, beth bynnag fo’i statws NRPF, yn profi bod Cymru’n gallu cymryd camau cadarnhaol i gefnogi’r rheini nad ydynt yn gymwys i gael arian cyhoeddus pan fyddant yn wynebu caledi fel digartrefedd. A dweud y gwir, credwn fod digartrefedd ynddo’i hun yn her sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, a dyna pam rydyn ni o’r farn bod yn rhaid i’r dull gweithredu trawsadrannol llwyddiannus ym maes iechyd y cyhoedd, ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd yn benodol, barhau ar ôl y pandemig.
Drwy ailystyried y polisïau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn dangos mai ei blaenoriaeth yw pawb y mae angen cymorth arnynt.