Does dim angen i chi gael trwydded oddi wrth y Comisiwn Hapchwarae i gynnal ‘loteri cymdeithasau bychan’ (o dan £20,000 mewn unrhyw flwyddyn benodol) ond bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol fel hyrwyddwr cymdeithasau bychan.
Mae’n rhad, ac nid oes llawer o fiwrocratiaeth, ac mae’n cadw eich loteri yn gyfreithlon.
Pan fydd aelod o staff yn gofyn i ymuno â Loteri, dylid rhoi copi o’r Telerau ac Amodau iddynt a dylent dderbyn e-bost yn amlinellu eu tanysgrifiad yn unol â’r enghraifft isod.
“Diolch am ymuno â Loteri Staff << RHOWCH ENW’R BUSNES >>.
Bydd eich taliad cyntaf o £<<FFIGUR>> yn cael ei dynnu o’ch cyflog (ar ôl treth) ar DD/MM/BBBB ac ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis ar ôl hynny << DEFNYDDIWCH DDYDDIADAU SY’N BERTHNASOL I’CH BROSES GYFLOGRES>>.
Byddwch yn cael rhif ar hap ac yn cael eich cynnwys yn y loteri yn dilyn pob taliad llwyddiannus hyd nes y byddwch naill ai’n canslo eich tanysgrifiad loteri neu’n gadael <<NODWCH ENW’R BUSNES>>.
Bydd y loteri yn cael ei thynnu bob mis ar ôl prosesu’r gyflogres lle bydd un rhif yn cael ei dynnu ar hap i ennill hanner cyfanswm enillion y loteri. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar e-bost yn fuan ar ôl pob loteri.
Diolch a phob lwc!”
Ar ôl pob loteri, bydd angen i chi gyflwyno manylion rheoleiddio i’ch awdurdod lleol (enghraifft isod).