Cyflwynydd tywydd yn mynd i’r afael â digartrefedd drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

15 Sep 2023

Mae Sue Charles, newyddiadurwraig a chyflwynydd tywydd BBC Cymru, wedi ymuno â thîm The Wallich i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd 2023

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ras 13.1 milltir sy’n enwog am ei gwrs gwastad, cyflym ac eiconig drwy brifddinas Cymru. Mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd o un flwyddyn i’r llall, gan ddenu rhedwyr o bob oed a gallu.

Yn 2022, cymerodd 59 o redwyr anhygoel ran yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran The Wallich.

Wrth i Sue baratoi i gynrychioli tîm The Wallich a phobl sy’n ddigartref, fe gysyllton ni â hi i gael rhagor o wybodaeth.

Pam wnest ti benderfynu codi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd, a pham dewis The Wallich?

“Rwy’n gweithio i BBC Cymru Wales a phan symudon ni i ganol dinas Caerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuais weithio mewn adeilad uwch-dechnolegol, newydd – canolfan ddarlledu arloesol.

Roedd mynd allan yn ystod fy egwyl cinio yn agoriad llygad, gan ei fod yn gwneud i mi sylweddoli pa mor wahanol gall bywyd fod – roeddwn i’n methu coelio faint o bobl a oedd yn byw ar y stryd.

Trist iawn oedd gweld cynifer o bobl gyda’r nesa peth i ddim. Roeddwn i’n methu â pheidio meddwl, “mae gan y rhan fwyaf ohonom ni gartrefi cynnes i fynd adre iddyn nhw heno, tra bod rhai yn gorfod bod allan yn yr oerfel, heb unman i fynd”.

Fe wnes i roi rhywbeth ar Twitter a daeth Mike, un o reolwyr The Wallich, i ymgysylltiad â fi.

Cawsom ni sgwrs, a soniais am yr agoriad llygaid a gefais wrth adael y ganolfan ddarlledu newydd.

Ers siarad â The Wallich, mae gen i well syniad ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy i’w helpu, a’u bod bob amser yn croesawu unrhyw fath o help i godi arian ac ymwybyddiaeth.

Rwy’n codi arian drwy fy nhudalen JustGiving. Byddaf yn rhannu’r dudalen â theulu a ffrindiau, ac ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Rwy’n gobeithio y gallwn ni godi arian i The Wallich, a chodi ymwybyddiaeth ar yr un pryd.”

Pam ddylai pobl roi arian er mwyn cefnogi pobl sy’n ddigartref yng Nghymru?

“Byddaf yn prynu’r Big Issue – ac yn wir, mae’r ‘mater’ hwn yn fwy o broblem nag erioed.

Ro’n ni wedi dod yn fwy ymwybodol o’r sefyllfa ar ôl darllen nofel Nick Hornby, How to Be Good, sy’n seiliedig ar ddigartrefedd. Roeddwn yn gweld fy hun yn fwy tosturiol tuag at faterion cymhleth ar ôl ei darllen.

Yna’n ddiweddar, ar ôl cael sgwrs â The Wallich, fe ddes i’n fwy ymwybodol o’r gwaith maen nhw’n ei wneud i fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu allan.

Maen nhw’n gweithio gyda phobl i’w helpu i wella eu bywydau a symud oddi wrth ddigartrefedd.

Mae’n achos pwysig iawn, sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl mewn argyfwng, a hynny drwy ddarparu llety brys a’u helpu gyda’u hiechyd meddwl.”

Sut mae’r hyfforddiant yn dod yn ei flaen? Wyt ti wedi rhedeg hanner marathon o’r blaen?

“Cyn dechrau codi arian, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i’n gallu rhedeg hanner marathon. Doeddwn i ddim eisiau addo’r byd i bobl, dim ond i’w siomi yn y pen draw. Dydw i ddim wedi rhedeg marathon ers ychydig flynyddoedd.

Ges i gyfnod o beidio â rhedeg gan fod Covid wedi effeithio ar fy iechyd a’m ffitrwydd. Rhai blynyddoedd yn ôl, rhedais hanner marathon ar gyfer elusen wahanol. Milltir i mewn i’r ras, fe wnes i dorri llinyn y gar ac roedd yn boenus iawn.

Yr unig beth oedd yn mynd drwy fy meddwl i oedd, “’Dw i wedi codi llwyth o arian, felly alla i ddim gadael pobl i lawr”. Er gwaethaf y boen, llwyddais i orffen y ras. Ond, drwy wneud hynny, fe wnes i fwy o niwed i’r llinyn y gar ac i fy nghoes.

Mae’r profiad wedi rhoi popeth mewn persbectif, ac wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw ymarfer cyn ymgymryd â her o’r fath.

Yn ddiweddar, fe wnes i gymryd rhan yn 10k y Barri a 10k Caerdydd, a meddyliais wrthyf fy hun, “Gallaf wthio fy hun ymhellach na hyn”.

Mae’n bwysig fy mod i’n rheoli fy nisgwyliadau fy hun – dydw i ddim yn mynd i allu rhedeg yn gyflym, mae’n mynd i fod yn anodd, ond rwy’n teimlo fy mod i’n barod i ymgymryd â’r her!

Rydw i wedi rhedeg sawl hanner marathon yn fy nydd, ond gan fy mod i bellach yn fy 40au hwyr, mae’n rhaid i mi ddechrau derbyn na alla i redeg i’r un safon ag yr oeddwn i yn fy 30au.

Pan roeddwn i ar fy ngorau, llwyddais i redeg hanner marathon mewn 1 awr a 50 munud – rwy’n meddwl mai dyna yw fy amser cyflymaf erioed.

Mae’n cymryd ymhell dros ddwy awr i mi redeg marathon erbyn hyn. Wrth fynd yn hŷn, mae’n cymryd mwy o amser i mi ddod ataf fy hun ar ôl rhedeg ras. Mae ioga yn help mawr!

Es i allan i redeg 15k yr wythnos diwethaf. Dw i’n dweud “rhedeg”, ond dim ond loncian oeddwn i mewn gwirionedd.

Bydd y ras hon yn golygu llawer iawn mwy na rhedeg yn erbyn y cloc, gan mai’r prif nod yw codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer pobl sydd angen ein cymorth.”

Sut wyt ti’n meddwl bod y tywydd yn effeithio ar bobl sy’n ddigartref?

“Pan mae’r tywydd yn fwyn, dydy dod o hyd i loches yn ddim yn broblem. Er hynny, gall bod allan yn y gwres yn rhy hir gael effaith ar broblemau iechyd.

Yna, yn ystod y gaeaf, mae angen i bobl chwilio am wres – yn enwedig pan fydd y tymheredd yn disgyn o dan y rhewbwynt.

Gall llochesi ddechrau llenwi oherwydd nad oes gan bobl fynediad at adnoddau hanfodol fel dillad gaeaf a gwres.

Hefyd, rydyn ni bellach yn gweld effaith newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar raddfa fyd-eang, a sut gall hyn adael pobl heb gartrefi ac adnoddau.”

Oes gen ti unrhyw ragolygon tywydd ar gyfer diwrnod Hanner Marathon Caerdydd?

“Dewch yn ôl ata i ychydig ddyddiau ymlaen llaw! Bydd gennym ni well syniad o’r rhagolygon yn nes at y diwrnod.

Yn ddiweddar, bu miloedd ohonom ni’n cymryd rhan yn 10k Caerdydd, a hynny mewn tywydd anarferol o boeth ym mis Medi.

Roedd y tymheredd yn yr 20au uchel, a dydy hynny ddim yn dywydd dymunol iawn i redeg ynddo.

Dydw i ddim yn hoffi rhedeg yn y glaw.

Rwy’n hoffi ychydig o heulwen, ond mae rhedeg mewn tywydd poeth yn gallu achosi problemau i lawer o bobl.

Amodau rhedeg perffaith i mi – cyfnodau o heulwen, ychydig o gymylau, a’r tymheredd ddim yn rhy boeth nac yn rhy oer. Ond mae’n debyg bod amodau rhedeg perffaith yn wahanol i bawb.”

Dilynwch daith hyfforddi Sue

Twitter

@Sue_Charles

Instagram

@Suecharlesbbc

Cyfrannwch nawr a helpwch Sue i godi arian ar gyfer pobl sy’n ddigartref.

Ydych chi eisiau mynd i’r afael â her newydd i godi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd? Ewch i’n tudalen Codi Arian neu anfonwch e-bost i dosomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig