Datblygu Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn The Wallich

Negeseuon blog gan Anthony Vaughan, Rheolwr Datblygu Gweithredol PIE

04 Jun 2021

Rydw i wedi bod yn gweithio i The Wallich ers 13 mlynedd bellach. Dechreuais ar y rheng flaen, yna cychwyn fy swydd bresennol ym maes PIE ym mis Ebrill 2020. Ac fel y byddech chi’n ei ddychmygu, mae COVID-19 wedi golygu bod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd wedi bod yn wahanol i’r hyn oeddwn yn ei ddisgwyl.

Myfyrio

Mae pwyso a mesur yn elfen allweddol o PIE er mwyn esblygu a gwella’r gwaith rydych chi’n ei wneud. Felly, yn ogystal â darllen, ymchwilio a dysgu, treuliais lawer o amser yn myfyrio ar daith PIE gyffredinol The Wallich yn ystod misoedd cyntaf y cyfnod clo.

Er bod PIE yn argymhelliad eithaf newydd gan Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni ddechrau ar y gwaith o’i gyflwyno yn 2016. Roedd gen i fy syniadau fy hyn am yr hyfforddiant cychwynnol ar gyfer PIE, yr adnoddau sydd ar gael a pha mor dda oedd pethau wedi cael eu gwreiddio hyd yma, ond roeddwn i eisiau gwybod beth oedd gweddill y sefydliad yn ei feddwl.

Er mwyn gwneud hyn, fe wnes i ddylunio ac anfon arolwg PIE at holl staff The Wallich. Roedd y gyfradd ymateb yn uchel a oedd yn golygu bod y canlyniadau’n rhoi darlun da i mi o beth oedd pobl yn ei feddwl o’n taith PIE hyd yma.

Ein cynnydd

Cafwyd nifer o ymatebion cadarnhaol cryf yn cadarnhau PIE fel grym cadarnhaol i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

• Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn credu bod PIE yn gwella’r berthynas gyda defnyddwyr gwasanaeth.
• Roedd y rhan fwyaf yn credu bod The Wallich yn darparu digon o gymorth llesiant i staff.
• Roedd y rhan fwyaf yn credu’n gryf bod PIE wedi gwella pethau iddynt ers ei gyflwyno.

Roedd canlyniadau’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at nifer o rwystrau a heriau yr oedd pobl wedi’u hwynebu wrth gyflwyno PIE hyd yma.

• Roedd llawer o’r ymatebwyr yn teimlo bod PIE yn gymhleth neu’n ddryslyd.
• Roedd rhai yn ei chael yn anodd defnyddio PIE yn ymarferol yn eu swyddi.
• Roedd PIE wedi canolbwyntio’n ormodol ar yr amgylchedd ffisegol a gwasanaethau mewn adeiladau, felly roedd mathau eraill o wasanaethau’n cael trafferth gweld pa mor berthnasol oedd hynny iddyn nhw neu eu swyddi.

Roedd hyn yn bwysig i mi gan ei fod wedi cadarnhau rhai o’m myfyrdodau fy hun ac mae’r gwersi a ddysgwyd yma wedi helpu i lywio fy ngwaith a chadarnhau rhai o’m penderfyniadau.

Mynd i’r afael â heriau

Fe wnaeth fy ymgais i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn fy arwain at PIE Link.

Mae PIE Link yn gymuned ymarfer ar-lein sy’n cael ei hwyluso gan Robin Johnson, sy’n cael clod mawr am fathu’r term PIE, ac mae wedi cyfrannu at lawer o’r llenyddiaeth gynnar.
Yma, fe wnes i ddarganfod PIE 2.0, diweddariad i’r fframwaith clasurol yr oeddem wedi bod yn ei ddilyn hyd yma.

PIE 2.0 – Beth nesaf

Roedd y fframwaith wedi esblygu ers 2017 i fynd i’r afael â rhai o’r problemau a’r heriau a godwyd gyda’r fframwaith gwreiddiol.

Roedd hyn yn cynnwys pethau a oedd yn bwysig iawn i ganfyddiadau fy arolwg, sef:

• Mae iaith syml yn helpu i ddeall y meysydd sy’n cael eu camddeall fwyaf.
• Maes newydd sy’n canolbwyntio ar agweddau beunyddiol ymarferol y gwasanaeth.
• Maes wedi’i ddiweddaru sy’n rhoi cyfle i bob math o wasanaethau fod yn rhan o’r fframwaith, nid dim ond y rheini sydd ag adeiladau.

Ar ben hynny, mae PIE 2.0 yn gwneud perthnasoedd yn thema allweddol ganolog yn hytrach nag yn faes ar wahân i’w reoli fel yn y fframwaith clasurol.

Rydw i’n arbennig o hoff o hyn, oherwydd i mi perthnasoedd sy’n bwysig gyda PIE.

Ar ei fwyaf sylfaenol, rwy’n credu bod y fframwaith PIE yn ein galluogi i weld ein gwaith a gweld a yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn adeiladu ac yn cynnal perthnasoedd iach â phawb sy’n cymryd rhan – er mwyn creu gwell ansawdd bywyd i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Yn The Wallich, rydyn ni wedi mabwysiadu’r fframwaith PIE 2.0 diwygiedig i lywio’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Dysgwch ragor am PIE

Tudalennau cysylltiedig