Digartrefedd, y chwalfa a’r paradocs “o fod ynddi gyda’n gilydd”

11 May 2020

Post gan Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr Y Wallich

I ni yn y sector digartrefedd, mae COVID-19 wedi dysgu inni beth y gallwn ei gyflawni mewn gwirionedd os oes digon o ewyllys gwleidyddol ac awydd cymunedol i ysgogi newid.

Nid yw’r hyn a welsom yn ystod y cyfyngiadau symud yn ddim llai nag ymdrech arwrol gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y gymuned fusnes a sefydliadau elusennol, fel Y Wallich, i dynnu at ei gilydd, rhannu adnoddau, bod yno i’n gilydd a gwneud i bethau anghredadwy ddigwydd.

Hoffwn ganmol fy staff a phawb sy’n gysylltiedig i’r cymylau, am yr angerdd a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i gadw pobl ddigartref mor ddiogel â phosibl wrth inni weithio drwy’r argyfwng hwn.

Fodd bynnag, er fy mod yn falch o’r ymdrech, mae yna hefyd flas bach o chwerwder na allaf ei osgoi. Roeddem eisoes yn gwybod bod digartrefedd yn argyfwng dynol cenedlaethol. Roeddem eisoes yn gwybod mai digartrefedd oedd yr argyfwng iechyd mwyaf yr ydym wedi’i wynebu mewn cenhedlaeth. Felly, pam na allem ddelio â hyn o’r blaen?

textimgblock-img

Mae COVID-19 wedi digwydd lle mae Prydain ar chwâl yn sgil Brexit.

Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd wedi esbonio’n huawdl fod y bleidlais Brexit o ganlyniad i hunaniaethau anghymharus a adeiladwyd yn gymdeithasol.

Mae cymaint o hunaniaethau gwahanol yn bodoli, gyda chanfyddiadau gwahanol o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Brydeinwr, yn Gymro, yn Sain, yn Alabanwr, yn Wyddel neu’n Ewropeaidd.

Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan y ffaith bod cyfoeth a thlodi yn aml yn cydfodoli o fewn un gymdogaeth.

Yn ôl adroddiad 2019 ar Fynegeion Amddifadedd Lluosog Cymru, mae ardaloedd trefol fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn cynnwys rhai o’r wardiau mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru; yn aml o fewn ychydig funudau cerdded oddi wrth ei gilydd.

Mae hyn yn arwain at deimladau o arwahanrwydd ac allgáu; mae dau fyd cyfochrog yn bodoli yn yr un gofod corfforol, ond gwrthodir i un lawer o’r profiadau y mae’r llall yn eu mwynhau.

Yn amlwg, nid ydym ‘i gyd ynddi gyda’n gilydd’, ac mae esgus fel arall o bosib yn rhoi mwy o bwysau di-alw-amdano ar y tlotaf a’r mwyaf agored i niwed i gadw i fyny, er nad oes ganddynt yr un cyfleoedd ac adnoddau.

Mae pobl sy’n eu cael eu hunain yn ddigartref yn gwybod digon am farnu cymdeithasol. Fe’u gelwir yn aml yn ‘y’ digartref, y bobl hynny draw fan acw sydd ag anghenion cymhleth. Y rhai sydd ‘angen iddyn nhw gael swydd’ neu ‘angen tynnu eu bys allan’.

Yr hyn y mae COVID-19 wedi’i wneud yw ein gorfodi i wynebu ein dyngarwch cyffredin. Yn sydyn, rydyn ni i gyd yr un peth. Mae’r person ar y stryd roedden ni’n arfer cerdded heibio iddo’n ddirmygus yn un ohonom ni nawr. Mae’n rhaid i ni ymladd y clefyd hwn gyda’n gilydd. Mae gan bob un ohonom rôl, fel gwenyn yn cynnal lles y cwch gwenyn, hyd yn oed os yw hynny ar draul yr unigolyn.

Mae’n galonogol gweld cymaint o bobl yn ailddarganfod pwysigrwydd gwirfoddoli, cysylltiad cymunedol, sicrhau bod cymdogion yn iawn, a bod yn ddinasyddion da. Yn ein mudiad ni, ceir enghreifftiau o staff yn mynd y tu hwnt i bob disgwyl i helpu pobl, ac mae haelioni rhagorol pobl a busnesau yn helaeth.

textimgblock-img

Mae llawer yn aberthu er mwyn helpu i lefelu’r cae chwarae i bob aelod o’n cymdeithas.

Yn sail i bopeth a dystiaf am yr argyfwng hwn, mae teimlad ysgubol o obaith.

Rwy’n casáu COVID-19 gymaint â’r person nesaf ond a allai hon fod yr her sy’n dod â’n cymuned ddrylliedig yn ôl at ei gilydd?

Rydw i mor ddiolchgar am yr adnoddau ychwanegol sydd wedi’u cyfeirio at helpu pobl sy’n cysgu allan oddi ar ein strydoedd i’w helpu i gael gafael ar lety; manteisio ar westai gwag, y llwybr cyflym i mewn i dai cymunedol, y £10 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

Ond ni fydd hyn yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd.

Mae’r cynnydd a gyflawnwyd mewn cyn lleied o amser yn syfrdanol ond mae angen atebion cynaliadwy tymor hir arnom, cefnogaeth â gwybodaeth seicolegol, newid yn y ffordd yr ydym yn comisiynu gwasanaethau ac ymrwymiad enfawr gan y llywodraeth i sicrhau nad ydym yn llithro’n ôl i’r ffordd yr oedd pethau ychydig fisoedd yn ôl.

Mae pethau rhyfeddol wedi digwydd oherwydd rydyn ni i gyd wedi dod at ein gilydd i ganfod atebion arloesol, i chwalu rhwystrau ac i wneud popeth posib i gadw pobl yn ddiogel.

Mae fy ngalwad i weithredu yn un syml. Gadewch i ni ddefnyddio’r gwersi rydyn ni wedi’u dysgu o’r enghreifftiau o bolisi rhagorol ac atebion creadigol. Boed i hyn barhau pan fydd y cyfnod hwn drosodd er mwyn diarddel yr arfer budr o farnu cymdeithasol.

Gadewch inni aros gyda’n gilydd yn ein brwydr yn erbyn digartrefedd.

Tudalennau cysylltiedig