Hanner Marathon Abertawe

09 Jun 2024

Rhedwch Hanner Marathon eiconig Abertawe ar ran un o brif elusennau digartrefedd a chysgu allan Cymru.

Mae Hanner Marathon Abertawe wedi cael ei enwi’n hanner marathon gorau’r DU am sawl blwyddyn yn olynol.

Gan ddechrau o flaen pont eiconig Bae Copr ger Arena Abertawe, bydd y rhedwyr yn rhedeg ar y tir gwastad o’r ddinas tuag at y môr, ac yn cael cyfle i fwynhau rhai o’r golygfeydd gorau sydd gan unrhyw hanner marathon i’w cynnig!

Drwy gofrestru â ni heddiw, byddwch chi’n ymuno ag aelodau eraill anhygoel o #TîmWallich sydd i gyd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru.

Pryd mae Hanner Marathon Abertawe?
Dydd Sul 6 Mehefin 2024

Beth yw cost lle elusennol?
Ymunwch â #TîmWallich heddiw drwy dalu ffi gofrestru o £10, a gwneud addewid i godi o leiaf £150 i atal digartrefedd yng Nghymru

Pam rhedeg Hanner Marathon Abertawe ar ran The Wallich?
Yn ogystal â helpu i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, bydd pawb sy’n ymuno â #TîmWallich yn cael y canlynol:

textimgblock-img

Unedig yn erbyn digartrefedd

Mae elusennau digartrefedd Cymru, sef The Wallich, Shelter Cymru, Crisis a Llamau, wedi dod at ei gilydd i annog rhedwyr y ras i gefnogi un achos cyffredin.

Daeth y pedwar sefydliad digartrefedd yng Nghymru ynghyd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023 i dynnu sylw at yr effaith maen nhw’n ei chael, yn unigol ac ar y cyd, ar gefnogi pobl sy’n wynebu a/neu’n profi digartrefedd.

RHAGOR O WYBODAETH AR GAEL YMA

Sut mae gwneud cais am le gyda The Wallich yn Hanner Marathon Abertawe?

Llenwch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi i roi eich manylion cofrestru.

Byddwch hefyd yn cael pecyn codi arian am ddim – sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni.

E-bost: dosomething@thewallich.net Ffôn: 02920 668 464 (opsiwn 2)

Tudalennau cysylltiedig