Pen-y-bont ar Ogwr
bridgendyoungpeoples@thewallich.net
01656 655300
Mae’r cynllun MAC (Anghenion Cymhleth Amlasiantaeth) yn darparu llety â chymorth 24 awr i bum person ifanc digartref sydd rhwng 16 a 21 oed.
Mae gan y bobl ifanc anghenion cymhleth. Gall rhain gynnwys problemau ymddygiad, camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl a hanes o droseddu.
Mae’r staff yn gweithio gyda’r bobl ifanc i roi sylw i’w hanghenion unigol. Maent yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill fel y gwasanaethau prawf, troseddwyr ifanc a chymdeithasol.
Y nod cyffredinol yw ceisio datblygu sgiliau byw’n annibynnol y person ifanc. Rydym yn ei alluogi i gadw’i denantiaeth pan fydd yn symud i’w lety ei hun, ac atal aildroseddu ac achosion o ddigartrefedd yn y dyfodol.
Mae’r Gwasanaeth Pobl Ifanc 18-21 yn darparu llety â chymorth a rennir a chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg.
Mae staff ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Rydym yn cefnogi’r bobl ifanc â’u datblygiad personol mewn materion fel:
Mae’r bobl ifanc rydym yn canfod llety iddynt fel arfer yn cael cymorth am hyd at 12 mis. Maent yna yn symud ymlaen i’w cartref eu hunain.
Mae’r cam nesaf, y cyfeirir ato fel ‘Camu i Lawr’, yn wasanaeth symud ymlaen.
Darperir fflatiau sengl, a fflatiau a thai i’w rhannu, i hyd at 20 person ifanc digartref yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr sydd ag anghenion cymorth llai dwys.
Cynigir rhain am hyd at chwe mis fel arfer. Yn aml iawn mae’n cynnig help â datblygiad personol yr unigolyn.
Canolbwyntir yn benodol ar fyw’n annibynnol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth allgymorth i bobl ifanc ar ôl iddynt symud ymlaen o un o’r tri chynllun i’w llety annibynnol eu hunain.
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed. Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel ein prosiectau i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymdrechwn i gyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.