Sir Benfro
MakingSpace@thewallich.net
01437 647113
Mae gwasanaeth Gwneud Lle The Wallich yn gweithio gyda phobl i ddeall celcio – heb farnu.
Mae ein gwasanaeth yn darparu dull cyfannol a therapiwtig o gefnogi pobl sy’n celcio.
Rydyn ni’n deall bod gollwng gafael ar eitemau yn eich cartref yn gallu peri gofid weithiau.
Fyddwn ni ddim yn dod i’ch cartref ac yn dechrau clirio – byddwn ni’n gweithio gyda chi, yn eich pwysau, i helpu i drefnu eich cartref.
Rydyn ni’n cynnig therapïau sy’n rhoi’r adnoddau i ni fynd i’r afael â pham rydyn ni’n celcio a sut mae osgoi llithro’n ôl i hen arferion. Mae hyn yn cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), dulliau sy’n ystyriol o drawma, a ffyrdd i osgoi llithro’n ôl.
Mae gennym hefyd Grŵp Cymorth Cymunedol lle cewch gefnogaeth emosiynol ac ymarferol barhaus gan gymheiriaid mewn lle anfeirniadol.
Mae celcio yn gyflwr cymhleth sy’n aml yn cael ei gamddeall – mae’n gallu gwneud pobl yn unig, yn sâl ac yn anniogel ac, mewn rhai achosion, gall arwain atynt yn colli eu cartref.
Mae’r gwasanaeth cyfannol Gwneud Lle yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol, i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi, i wella eu hiechyd meddwl, ac i atal digartrefedd.
Bydd atgyfeiriadau i’r gwasanaeth yn mynd drwy Borth Cymorth Tai Cyngor Sir Benfro.