Hostel Dinas Fechan

Strand, Abertawe, SA1 2AW

Abertawe

01792 648 031

Hostel 15 ystafell wely yn Abertawe yw Dinas Fechan. Mae’n darparu lloches a chymorth i bobl sengl ddigartref

textimgblock-img

Mae’r holl breswylwyr yn cwrdd yn rheolaidd â’u gweithwyr cymorth a fydd yn cynnig gwaith datblygiad personol, mynediad at wasanaethau priodol (cymorth cyffuriau/alcohol, iechyd meddwl ac yn y blaen) a chyngor ar ddod o hyd i lety parhaol.

Mae gan bob un o’r preswylwyr ei le byw ei hun ac ystafelloedd cyffredin sy’n cael eu rhannu.

Mae’r hostel yn darparu llety a chymorth i bobl sydd ag anghenion cymorth amrywiol, gan gynnwys

  • Problemau iechyd meddwl
  • Anawsterau dysgu
  • Ymddygiad troseddol neu gamddefnyddio sylweddau

Mae’r hostel yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad, ystafelloedd ymolchi a chawodydd.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Wallich support staff at homeless hostel Dinas Fechan in Swansea

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Dinas Fechan yn Abertawe, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig