Hostel Sant Leonard

Carlton Terrace, Abertawe, SA1 6AB

Abertawe

01792 654 001

Hostel sy’n darparu llety a chymorth i ddynion sy’n ymwrthod â chyffuriau/sylweddau yn Abertawe yw Sant Leonard

Cefnogir y preswylwyr i gael sgiliau byw’n annibynnol cyn symud ymlaen i lety mwy parhaol.

Mae 14 ystafell wely yn yr hostel a gall y preswylwyr ddefnyddio ystafell gyffredin, ystafelloedd ymolchi a cheginau a rennir.

The Wallich hostel - St Leonards Swansea

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel hostel Sant Leonard yn Abertawe, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig