Hostel Tŷ Ogwr

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 665 441

Gwasanaeth preswyl sy’n cynnig llety dros dro mewn argyfwng ar ffurf 16 uned i bobl sengl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw hostel Tŷ Ogwr

Nod y prosiect yw paratoi preswylwyr ar gyfer eu tenantiaethau eu hunain.

Caiff cefnogaeth, gweithgareddau yn ystod y dydd a help i ddod o hyd i lety addas i symud ymlaen iddo eu darparu.

Rydym hefyd yn darparu cymorth ag adsefydlu pan fo angen.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel hostel Tŷ Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig