Llety Amgen yn lle Gwely a Brecwast (ABBA) Abertawe

Orchard House, Llawr Cyntaf, 7 Orchard Street, Abertawe, SA1 5AS

Abertawe

01792 464 189

Llety dros dro mewn argyfwng i bobl a theuluoedd yn Abertawe

Llety Gwely a Brecwast Amgen Abertawe (ABBA)

Mae llety gwely a brecwast yn ddewis olaf i rywun heb gartref. Dyna pam rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith o dai a fflatiau sy’n ddewis amgen i bobl mewn argyfwng.

Mae ABBA yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddarparu llety sefydlog a chymorth wedi’i deilwra i bobl a theuluoedd sydd ei angen.

Sut mae’n gweithio?

Gan weithio gyda landlordiaid, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, rydyn ni wedi datblygu rhwydwaith cadarn o opsiynau tai dros dro ar draws y ddinas.

Mae tîm ABBA yn rheoli’r llety ac yn darparu cymorth wedi’i deilwra i’r rhai sy’n byw gyda ni.

Mae ABBA yn cynnwys dros 40 eiddo ledled Abertawe, ac rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw ar ran darparwyr tai, gan gynnwys Cyngor Abertawe, Pobl a Ceredig a The Wallich ei hun.

Mae’r eiddo hyn yn cael eu defnyddio i ddarparu llety dros dro tymor byr i unigolion a theuluoedd sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mathau o dai

Os ydy’r llety i bobl sengl neu i deuluoedd, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyfateb pob person â’r eiddo mwyaf priodol i’w sefyllfa.

Byddwn yn gallu rhoi lle i anifeiliaid anwes pan fo’n bosibl.

Cymorth cofleidiol

Mae pawb sy’n cael ei gartrefu drwy brosiect ABBA The Wallich yn cael Gweithiwr Llety Dros Dro penodol sy’n eu helpu i setlo a chymryd camau at fyw’n annibynnol.

Ffocws y cymorth

Cymorth pwrpasol

Yn The Wallich rydyn ni bob tro’n canolbwyntio ar yr unigolyn – rydyn ni’n deall bod sefyllfa pawb yn unigryw.

Mae ein cymorth yn amrywio ac wedi’i deilwra i’r unigolyn er mwyn diwallu ei anghenion.

Cael gafael ar wasanaeth ABBA

Daw pob atgyfeiriad i ABBA yn syth o Opsiynau Tai Abertawe drwy’r Llwybr Llety â Chymorth Dros Dro (TAP).

Ar ôl atgyfeirio, bydd Opsiynau Tai yn gweithio gyda The Wallich i ddyrannu eiddo addas.

Bydd tîm ABBA yn dyrannu Gweithiwr Llety Dros Dro i roi cymorth parhaus i’r unigolyn neu’r teulu sy’n symud i mewn.

Tudalennau cysylltiedig