Tîm Tai Cymunedol

Sylwch: O fis Mai 2021, nid yw’r gwasanaeth hwn ar waith mwyach.

Mae’r Tîm Tai Cymunedol yn rheoli nifer o dai a rennir a fflatiau preswyl i bobl ddigartref sydd wedi cael diagnosis o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Mae’r staff hefyd yn darparu gwasanaeth cymorth fel bo’r angen i bobl yn y gymuned sydd mewn perygl o golli eu cartref oherwydd eu diagnosis deuol.

Tai Cymunedol

Mae’r preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth sy’n defnyddio gwasanaethau’r Tîm Tai Cymunedol yn cael cymorth i reoli eu problemau iechyd meddwl, datblygu strategaethau ymdopi a meithrin sgiliau byw’n annibynnol – naill ai er mwyn cadw’u tenantiaeth bresennol neu er mwyn eu galluogi i symud i’w cartref eu hunain.

Gwneir hyn drwy gynlluniau cymorth sy’n cael eu datblygu gyda’r unigolyn a’u teilwra ar ei gyfer.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Tai Cymunedol

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel ein Tîm Tai Cymunedol yng Nghaerdydd, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

Y Tîm Tai Cymunedol oedd y prosiect Wallich cyntaf i  gael trawsnewidiad PIE ac mae wedi arloesi drwy ddangos yr arferion gorau i rannau eraill o’r elusen.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Mae staff y prosiect ar gael rhwng 7:30am ac 11:00pm saith niwrnod yr wythnos ac mae gwasanaeth ‘Ar Alwad’ i’w gael drwy’r nos.

Mae angen cyswllt agos ag asiantaethau iechyd meddwl a chyffuriau neu alcohol er mwyn sicrhau bod sylw’n cael ei roi i anghenion parhaus preswylwyr.