Lansiad cam dau’r prosiect adsefydlu

10 Mar 2020

Post wedi’i ysgrifennu gan Ellie Pearson, Pennaeth Cyfranogi a Dilyniant

Ddydd Iau 27ain, cynhaliodd The Wallich ddigwyddiad lansio yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad i lansio cam 2 y prosiect Adeiladu Cyfleoedd Sgiliau a Llwyddiant (BOSS).

Nodau ac amcanion nôl yn 2017;

Cyflwynwyd BOSS yn wreiddiol fel rhaglen cyflogadwyedd a mentora newydd sbon ledled de Cymru ar gyfer pobl â chofnodion troseddol.

Aeth y tîm i’r afael â stigma cofnodion troseddol a chwalu’r rhwystrau a’r heriau a wynebai ein pobl.

Buom yn gweithio i gynyddu hyder, sgiliau, cyflogadwyedd a rhagolygon y rhai a gefnogwyd gennym.

Yn ogystal, buom yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo buddion cyflogi pobl â chofnodion troseddol ymhlith ein partneriaid corfforaethol, mynd i’r afael â bylchau sgiliau, ac chreu amrywiaeth mewn gweithluoedd ar draws diwydiannau yn Ne Cymru.

Rydym wedi cyflawni pethau anhygoel yng ngham cyntaf y prosiect.

Dros dair blynedd rydym wedi gweithio gyda bron i ddwy fil o bobl. Rhoi cefnogaeth i 362 o bobl i symud o fudd-daliadau i gyflogaeth a galluogi pobl i droi cefn ar fywyd sy’n gysylltiedig â throseddu.

Gwnaethom ariannu 375 o gymwysterau hanfodol, i wneud y siwrnai at waith yn fwy cyraeddadwy a chynaliadwy.

Ond yn anad dim, rydym wedi grymuso cannoedd o unigolion i reoli eu bywydau eu hunain, eu penderfyniadau eu hunain a dod yn gyfrifol am eu dyfodol eu hunain.

Fe wnaethon ni helpu ein pobl i feithrin hunaniaeth newydd fel unigolion o werth, i deimlo’n falch o bwy ydyn nhw ac yn olaf, i droi cefn ar y label troseddwyr.

Rydyn ni wedi dysgu llawer dros y tair blynedd ddiwethaf. Rydyn ni wedi arbrofi, llwyddo a methu, ond yn bwysicaf oll wedi adlewyrchu a mireinio ein dull ac rwy’n hyderus mai ein hail gam fydd y gorau eto.

Pam?

Oherwydd yn The Wallich a BOSS, rydym yn gweithio’n dosturiol ac yn amyneddgar gyda’n defnyddwyr gwasanaeth.

Ni waeth faint o ymdrechion y mae’n eu cymryd ac ni waeth sawl gwaith y mae rhywun yn aildroseddu, ni fyddwn yn cau’r drws arnyn nhw. Rydym yn cofleidio methiant ac yn ei droi’n gyfle i ddysgu a thyfu.

Rydym wedi creu ein cymuned  ein hunain o fewn BOSS, gan gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth nid yn unig i gael gwaith, ond hefyd i fywyd, pwrpas, cylchoedd ffrindiau, rhwydweithiau cymorth cwbl newydd, a’r hyder a’r arfau i wneud y newidiadau hynny’n rhan barhaol o’u dyfodol.

Mae BOSS yn ddilys, rydyn ni’n gwrando ar y bobl rydyn ni’n eu cefnogi ac wedi defnyddio eu lleisiau, eu hadborth a’u barn i lywio ail gam y prosiect hwn.

Rydym wedi cyflogi ein defnyddwyr gwasanaeth ac wedi eu grymuso i ddefnyddio eu profiadau bywyd i gefnogi ac ysbrydoli eraill fel Mentoriaid Cymheiriaid.

Rydym yn ddewr  yn ein hymdrechion i gefnogi a grymuso ein pobl. Byddwn yn parhau i herio gwahaniaethu a stigma, wrth arloesi mentrau newydd, gan weithio’n arloesol gyda’n defnyddwyr gwasanaeth a’n partneriaid mewn modd seicolegol gwybodus.

Rydym yn  benderfynol o ddal ati a gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl ag euogfarnau ledled de Cymru. Byddwn yn parhau i addasu a gwella ein gwaith i gyrraedd a grymuso mwy o bobl i fyw’r bywydau y maent yn eu haeddu.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’n partneriaid sydd wedi cefnogi a gweithio ochr yn ochr â ni dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i’n defnyddwyr gwasanaeth presennol a blaenorol sy’n ymddiried ynom i’w helpu.

Mae’r llwyddiant hwn yn eiddo i chi, yn gymaint ag y mae i ni.

Tudalennau cysylltiedig