Gwybodaeth bwysig am ddata

30 Jul 2020

Yn The Wallich, rydym yn cymryd diogelwch data ein cefnogwyr yn ddifrifol iawn a dyna pam ein bod eisiau tynnu sylw at ddigwyddiad a allai fod wedi achosi i ddata personol gael ei ddatgelu.

Fel sefydliad, rydym yn defnyddio system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) trydydd parti i storio a rheoli’r wybodaeth a gasglwn gan gefnogwyr.

Hoffem roi sicrwydd i’n cefnogwyr o ran y canlynol:

Beth digwyddodd

Cawsom ein hysbysu ar 16eg Gorffennaf gan un o’r darparwyr gwasanaeth trydydd parti am ddigwyddiad diogelwch pryd y cafwyd mynediad at gopi o’n ffeil wrth gefn, a allai fod wedi cynnwys gwybodaeth bersonol,

Rydym wedi derbyn cadarnhad gan ein darparwr fod y digwyddiad bellach wedi ei ddatrys, ac yn dilyn ymchwiliad, nad oes ganddynt unrhyw reswm dros gredu y cafodd data ei gamddefnyddio nac y bydd yn cael ei gamddefnyddio.

Fel rhagofal, rydym wedi bod mewn cysylltiad â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Rydym hefyd wedi cysylltu â darparwr y gronfa ddata gan fynegi ein pryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i roi gwybod i ni.

Mae sicrhau diogelwch data o’r pwysigrwydd mwyaf i ni a hoffem ymddiheuro o waelod calon am unrhyw bryder y gallai hyn ei achosi i’n cefnogwyr.

Os ydych chi wedi rhannu data â ni, does dim angen i chi gymryd unrhyw gamau gan ein bod o’r farn bod y digwyddiad hwn yn un risg isel a’i fod bellach wedi ei ddatrys. Fodd bynnag, arhoswch yn wyliadwrus, ac os byddwch yn profi unrhyw weithgarwch amheus, rhowch wybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach ac yr hoffech gael trafodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm drwy e-bost yn: supportercare@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig