Trefnwyd y digwyddiad gan CEO Sleepout UK, elusen genedlaethol a sefydlwyd i ysbrydoli’r gymuned fusnes i ddod at ei gilydd i wneud rhywbeth ynglŷn â digartrefedd. Roedd The Wallich yn bartner elusennol ac fe chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y digwyddiad yn gynhwysol ar gyfer pobl oedd â phrofiad personol o fod yn ddigartref.
Daeth 23 o Brif Swyddogion Gweithredol ac arweinwyr busnes at ei gilydd i gysgu o dan y sêr i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer pobl sy’n ddigartref.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad eiconig Castell Caerdydd, yn cynnwys trafodaeth banel bwerus dan arweiniad Bwrdd Cysgodol The Wallich – unigolion â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd sy’n cyd-gynhyrchu gwasanaethau The Wallich.
Fe wnaethant ddefnyddio’r cyfle i ofyn i arweinwyr busnes ystyried a yw eu harferion cyflogi yn eithrio pobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd, a sut i gefnogi aelodau o’u staff sydd mewn perygl o golli eu cartref.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad emosiynol gan y Côr Heb Enw – côr i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd ac ymyleiddio.
Elfen allweddol arall o’r digwyddiad oedd Dilys, un o gerbydau Gweithrediadau Symudol The Wallich.
Bu Jason, Pennaeth Gweithrediadau Symudol The Wallich, yn dangos pobl o amgylch y cerbyd allgymorth arbennig, gan dynnu sylw at ei effaith ar gymunedau ledled Cymru.
O wasanaethau cyfnewid nodwyddau a gweithio mewn partneriaeth â nyrsys, i gynnig lle diogel i gael cyngor a chymorth mewn perthynas â digartrefedd, mae’r cerbyd yn chwarae rhan hollbwysig yng nghyswllt y rhai sydd heb unman arall i fynd.
Ar ôl i’r trafodaethau a’r canu ddod i ben, cafodd y Prif Swyddogion Gweithredol a’r arweinwyr busnes gyfle i rwydweithio a thrafod sut gallant helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Ar ôl iddi dywyllu, cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle unigryw i gysgu ar dir y castell. Gyda’r giatiau ar gau, trodd y Castell yn ddu tra bo’r strydoedd y tu allan yn parhau i fod yn swnllyd.
Er nad yw hyn yn dod yn agos at wir brofiad pobl sy’n cysgu allan yng Nghymru, cafodd y rhai a oedd yn bresennol flas byr ond pwerus ar effaith cysgu y tu allan yn y nos – natur anwadal y tywydd, hyd yn oed ar y diwrnod poethaf yng Nghymru hyd yma, sŵn di-baid drwy gydol y nos a noson anghyfforddus heb fawr o gwsg.
Nid dynwared cysgu allan fel gimig oedd pwrpas y digwyddiad hwn, ond cynnig persbectif ystyrlon i bobl sy’n aml yn cymryd cysur cartref cynnes, gwely diogel a chyfforddus, mynediad at wasanaethau hanfodol a sicrwydd ariannol yn ganiataol.
“Rydw i’n cymryd rhan heno oherwydd rydw i’n meddwl ei bod hi’n wirioneddol bwysig tynnu sylw at yr amrywiaeth o wahanol fathau o ddigartrefedd sydd o’n cwmpas ni – nid dim ond y rhai sy’n cysgu allan rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw.
Drwy fy rhwydwaith a gallu defnyddio pethau fel LinkedIn, y gobaith yw codi ymwybyddiaeth ac y bydd pobl yn mynd oddi yma ac yn meddwl ychydig mwy am hyn.
Yng Nghymru, mae gennym broblem enfawr gyda digartrefedd ac mae rhai ystadegau brawychus iawn ynghylch nifer y bobl sy’n ddigartref.
Nid dim ond y bobl rydyn ni’n eu gweld yn cysgu allan ar ein strydoedd sydd dan sylw yma, ond hefyd y teuluoedd sy’n symud o hostel i westy i gartref oherwydd rhenti amhosibl eu fforddio.
Mae gwir angen i ni edrych ar ochr gudd digartrefedd a gweld sut gallwn ni helpu gyda hynny. Ond hefyd, yr holl effeithiau canlyniadol sy’n digwydd oherwydd digartrefedd.
Nid oes gan bobl y gallu i gael swydd ac i gadw swydd. Mae hynny’n wirioneddol bwysig.
Mae’n bwysig cael pobl allan o ddigartrefedd ond mae hefyd yn bwysig cadw pobl mewn swyddi ac mewn eiddo ac yn y cyswllt hwn, mae gan bob un ohonom ran i chwarae.
Dyna pam fy mod i’n hapus iawn i gymryd rhan a chodi ymwybyddiaeth a hefyd, fel cwmni, gweld sut gallwn ni gefnogi The Wallich.”
Dywedodd Karen Robson, Prif Swyddog Gweithredol The Wallich:
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r rheini a ddaeth at ei gilydd i gefnogi The Wallich ac i helpu i godi arian hanfodol i bobl sy’n ddigartref.
Mae dod ag arweinwyr busnes at ei gilydd yn hollbwysig i herio canfyddiadau ynghylch digartrefedd ac i gychwyn sgyrsiau ystyrlon am y rôl y gall y gymuned fusnes ei chwarae o ran sbarduno newid hirdymor.
Nid mater sy’n ymwneud â thai yn unig yw digartrefedd – mae’n broblem systemig.
Gyda’n gilydd, drwy waith partneriaeth, codi ymwybyddiaeth a gweithredu, gallwn greu Cymru lle mae gan bawb le diogel i’w alw’n gartref.”
Cysylltwch â ni heddiw – dosomething@thewallich.net