Côr heb Enw

Neuadd Gymunedol St Paul, Stryd Paget, Grangetown

Caerdydd a'r Fro

07824 991381

1st birthday event - Choir members Cardiff Choir With No Name

Côr newydd hwyliog a chroesawgar yng Nghaerdydd sy’n cynnwys pobl sydd wedi profi digartrefedd ac unigrwydd

Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio’r côr newydd hwn, mewn partneriaeth â’n ffrindiau yn y Côr heb Enw.

 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl y mae digartrefedd ac unigrwydd wedi effeithio arnyn nhw yng Nghaerdydd.

Choir with

Nid oes rhaid talu i ymuno â’r côr ac nid oes angen unrhyw brofiad canu arnoch – dim ond galw draw.

Rydyn ni’n canu pob math o gerddoriaeth, gan gynnwys pop, soul, roc, reggae a mwy.

Mae côr Caerdydd yn seiliedig ar y syniad bod canu mewn côr yn rhoi hwb i chi, yn tynnu eich sylw oddi ar fywyd bob dydd, ac yn eich galluogi i fod yn rhan o gymuned hwyliog a chroesawgar.

Bydd yr ymarferion yn cael eu cynnal rhwng 6pm a 7.30pm bob nos Fawrth

Beth i’w ddisgwyl gan y Côr Heb Enw

Er nad oes pwysau i fod yn bresennol, byddai’n ddefnyddiol pe bai defnyddwyr gwasanaeth (neu eu gweithwyr cefnogi) yn gallu rhoi gwybod i ni os ydyn nhw’n bwriadu dod i’r sesiwn gyntaf.

Mae’r côr yn agored i bobl o unrhyw wasanaeth, nid gwasanaeth The Wallich yn unig.

Bydd disgwyl i bawb sy’n bresennol ddilyn y gweithdrefnau diogelwch COVID sydd ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

“Sut bynnag dw i’n teimlo, mae’r croeso cynnes dw i’n ei gael bob amser yn codi fy nghalon. Mae bod yn rhan o’r côr yn help emosiynol i mi, a phryd bynnag byddaf yn teimlo’n isel mae canu yn codi fy ysbryd.”
– Aelod o’r Côr heb Enw

Tudalennau cysylltiedig