Gwasanaethau Cysgu Allan Caerdydd

Cardiff

Caerdydd a'r Fro

Mae Gwasanaethau Cysgu Allan Caerdydd, sy’n cael eu darparu gan The Wallich, yn helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn y ddinas

Mae’r Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd gan The Wallich yn darparu allgymorth pendant, ac mae ein staff arbenigol yn y Gwasanaeth Atebion yn rhedeg cyfleuster galw heibio.

Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd

Amseroedd gweithredu

7 diwrnod yr wythnos

7am – 3pm

Gwybodaeth

Ers blynyddoedd lawer, mae The Wallich wedi bod yn adnabyddus fel y ‘gwasanaeth brecwast’ yng Nghanol Dinas Caerdydd. Ond wrth i amser symud ymlaen, rydym ninnau hefyd wedi symud ymlaen.

Rydym bellach yn gweithredu ar sail egwyddorion allgymorth pendant, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd.

Ein cymorth

textimgblock-img

Mae’r ddau dîm yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ar y stryd, gan fynd at bobl lle maen nhw i gynnig cymorth ar gyfer digartrefedd.

Mae ein tîm o arbenigwyr yn gweithio bob dydd i helpu pobl sy’n cysgu allan, neu sy’n byw bywyd ar y stryd, i gymryd y cam cyntaf allan o ddigartrefedd.

Y Gwasanaeth Atebion

Amseroedd gweithredu

Dydd Llun – dydd Gwener

10am – 3pm

Gwybodaeth

Canolfan galw heibio ar gyfer pobl ddigartref yng Nghaerdydd yw ein Gwasanaeth Atebion.

Ein cymorth

Dyma enghreifftiau o’r cymorth y gallai pobl ddigartref ei gael yn ein canolfan galw heibio:

textimgblock-img
  • Sicrhau a chynnal tŷ a llety arall
  • Atgyfeirio ar gyfer camddefnyddio sylweddau
  • Cymorth ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl
  • Cawodydd a chyfleusterau golchi dillad
  • Bwyd ac ati
  • Cyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu

Mae The Wallich yn falch o fod yn rhan o ddull gweithredu amlasiantaeth yng Nghaerdydd i roi diwedd ar gysgu allan, gan weithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, asiantaethau digartrefedd eraill, yr heddlu a gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Tudalennau cysylltiedig