Croes Ffin Caerdydd

7 Bala Rd, Caerdydd, CF14 2QJ

Caerdydd a'r Fro

02920 624 445

Mae gwasanaeth Croes Ffin yn gweithredu ledled Caerdydd a’r Fro

er mwyn darparu llety diogel â chymorth i bobl sydd wedi cael anawsterau yn y gorffennol â chyffuriau neu alcohol.

Mae’n ofynnol i’r preswylwyr fod wedi ymwrthod â chyffuriau anghyfreithlon ac alcohol am o leiaf chwe wythnos.

Dylent hefyd fod wedi dadwenwyno neu ddilyn rhaglen adsefydlu yn ddiweddar a dylent fod yn parhau â rhaglen driniaeth bellach er mwyn ymwrthod â sylweddau.

Mae’r staff yn gweithio gyda’r preswylwyr i’w helpu i ddal i ymwrthod â sylweddau a thrwy hynny eu paratoi i symud ymlaen i lety priodol.

Mae The Wallich yn credu bod gan bobl sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol.

Mae ymchwil yn dangos bod byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) yn gallu helpu pobl i adfer yn llwyddiannus. 

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol ac ystyriol o drawma, fel Croes Ffin yng Nghaerdydd, sy’n cysylltu pobl â chymorth addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Housing Support Grant logo

Tudalennau cysylltiedig