Cwpan y Byd Digartref yn dod i Gymru

27 Jul 2019

Bydd yr 17eg twrnamaint pêl-droed Cwpan y Byd Digartref yn cael ei gynnal ym Mharc Bute Caerdydd o ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 3 Awst

Bydd mwy na 500 o chwaraewyr o wahanol rywiau, sy’n cynrychioli 50 gwlad, yn teithio i Gaerdydd ar gyfer yr ŵyl bêl-droed, cerddoriaeth a siaradwyr wythnos o hyd – gan gynnwys ein Prif Swyddog Gweithredol, Lindsay Cordery-Bruce.

Cwpan y byd digartref

Mae The Wallich yn bartner swyddogol Cwpan y Byd Digartref, a gall y cyhoedd ymweld â ni yn y Cerbyd Lles piws mawr ger mynedfa’r safle.

Ni fydd digartrefedd yn diffinio’r chwaraewyr a’r gwirfoddolwyr, ond byddan nhw’n cael eu gweld fel cynrychiolwyr eu gwlad, fel athletwyr, a bydd hynny’n rhoi hwb i’w hyder a’u hunan-werth.

Pwy all fynd i’r digwyddiad hwn?

Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol i bawb. Mae’r mynediad AM DDIM – dewch â’ch teuluoedd, ffrindiau ac anifeiliaid anwes.

Cwpan y byd digartref

Sut mae The Wallich yn cymryd rhan?

Drwy gefnogi’r digwyddiad hwn a’i chwaraewyr a gwirfoddolwyr anhygoel, rydym yn cyd-fynd â’n gwerth sefydliadol newydd Cymuned – mae angen ymateb cymunedol i ddigartrefedd ac fe ddylem fod yn bresennol ar gyfer unrhyw beth sy’n cynnig cyfleoedd cadarnhaol a chynhwysol i’r bobl rydym ni’n eu cefnogi.

Bydd ein staff yn arwain ar ochr ddiogelu’r twrnamaint – ac yn sicrhau bod pob chwaraewr, gwirfoddolwr a’r rhai sy’n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref yn ystod yr wythnos yn cael eu cefnogi.

Bydd y digwyddiad yn brysur, ac o bosib ychydig yn frawychus, dyna pam rydym yn darparu ein Cerbyd Lles, Fflyd y Stryd a sawl aelod o staff i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu diogelu.

textimgblock-img

Pam dod i’r digwyddiad?

Bydd y torfeydd yn gweld y chwaraewyr, a llawer ohonynt wedi profi caledi a digartrefedd, yn goresgyn y rhwystrau i wisgo crys eu gwlad gyda balchder.

Yn ogystal â phêl-droed rhyfeddol, bydd cerddoriaeth gan gewri byd cerddorol Cymru – James Dean Bradfield, Euros Childs, Gwenno, a’r Pop Dungeon gan Charlotte Church. A pheidiwch â methu comedi gan Sara Pascoe a recordiad byw o bodlediad The Guilty Feminist.

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar artistiaid a digwyddiadau Cwpan y Byd Digartref.

Tudalennau cysylltiedig