“Mae gan Sian flynyddoedd o brofiad yn The Wallich, yn arwain gweithrediadau, partneriaethau a gwaith polisi – ac mae’n cyfrannu cymaint mwy na hynny i’r sefydliad hefyd.
Ynghyd â Thîm Gweithredol profiadol a thalentog, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut bydd The Wallich yn datblygu yn y dyfodol agos wrth i ni edrych ar strategaeth newydd, ac ystyried y ffyrdd gorau o barhau i gryfhau ein gwaddol fel prif elusen digartrefedd Cymru.
Mae’r Bwrdd yn bwriadu dechrau’r broses recriwtio ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol parhaol cyn y flwyddyn ariannol newydd – yn y cyfamser, ni allem ddychmygu gwell na chryfach tîm i fwrw ymlaen â blaenoriaethau uniongyrchol y sefydliad.
Mae llawer o newidiadau’n dod i’r sector digartrefedd, ac mae’r penderfyniad hwn ynghylch yr arweinyddiaeth yn golygu y gallwn wneud penderfyniadau sy’n ein helpu i ddatblygu ein hymatebion i’r heriau a’r cyfleoedd hyn.”