Dechreuodd ei gyrfa gyda The Wallich yn 2008 gyda’r Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd ym Mhen y Bont ar Ogwr. Yno, bu’n hyrwyddo gwirfoddoli a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth.
Nid oedd cefndir Sian yn y trydydd sector i ddechrau ond mae ganddi bersbectif unigryw. Am wyth mlynedd, bu’n gweithio i dwrnai gyda gradd mewn Rheoli Busnes. Ar ôl cael plant, gwnaeth Sian benderfyniad bwriadol i adael ei swydd yn y sector corfforaethol a rhoi ei sgiliau ar waith i helpu pobl. Rydyn ni’n falch o ddweud nad yw hi erioed wedi edrych yn ôl.
Ym mis Hydref 2013, bu Sian yn rheoli rhaglen wirfoddoli defnyddwyr gwasanaeth The Wallich ledled Cymru. Bu ei swydd ehangu i gynnwys cydgynhyrchu a chreu cyfleoedd i gleientiaid, gan gynnwys datblygu ffyrdd arloesol o ymgysylltu â’n defnyddwyr gwasanaeth a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys.
Daeth Sian yn Bennaeth ein tîm Cyfranogiad a Chynnydd cyntaf (a elwir bellach yn Arloesi a Gwella Gwasanaethau). Yno, bu’n goruchwylio’r holl brosiectau sy’n ymwneud â sgiliau, cyflogadwyedd a lles. Mae hi’n frwd dros helpu pobl i ymgysylltu â’u cymunedau drwy dreftadaeth, y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon.
Penodwyd Sian yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2019, lle parhaodd i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau creadigol ac arloesol ar draws ein holl wasanaethau yng Nghymru.
Flwyddyn yn ddiweddarach, daeth yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau llawn, gan oruchwylio holl weithrediadau elusennau ledled Cymru.
Dros ei deunaw mlynedd yn The Wallich, mae Sian wedi bod yn rhan hollbwysig o daith The Wallich i fod yn sefydliad sy’n ystyriol o drawma ac Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am ein gwaith sy’n ymwneud â lleihau niwed, cynhwysiant iechyd a’n cerbydau allgymorth symudol mawr.
Mae hi wedi ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro am ddau gyfnod ac erbyn hyn, yn 2026, mae hi’n camu i’r rôl yn barhaol.
Y tu allan i’r Wallich, mae Sian yn aelod balch o Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth Cymru. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag unigolion brwdfrydig a phrofiadol eraill o’r sector i helpu i lywodraethu’r gwaith dylanwadu pwysig a wneir gan y tîm yn Cymorth.
“Pan es i allan i ddarparu brecwast am y tro cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr flynyddoedd yn ôl a chwrdd â fy nghleientiaid cyntaf, ac wrth i mi gynnig coffi a chlust gyfeillgar, fe wnes i ymrwymiad i wneud popeth yn fy ngallu i greu bywyd gwell i’r rheini sy’n ddigartref.
Ni fyddwn yn derbyn ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae ein pobl yn ddi-lais ac yn cael eu gorfodi i fyw heb ddiogelwch a chynhesrwydd cartref. Mae’r cymhelliant a gefais y diwrnod hwnnw wedi aros gyda mi drwy bob rôl yr wyf wedi ymgymryd â hi. Dyma fy nghwmpawd, mae’n arwain fy ngwaith ac yn sicrhau bod ein cleientiaid, a’r gymuned sy’n eu cefnogi yn The Wallich, wrth galon popeth a wnawn.
“Rwy’n addo hyrwyddo eich gwaith ar y rheng flaen ac arwain The Wallich i fod yr hyn rydyn ni’n ei haeddu – Llais digartrefedd yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn yn unol â’n strategaeth newydd i wella ansawdd, effaith a chynaliadwyedd yn The Wallich, a byddwn yn gwneud y cyfan gyda’n gilydd.”