Cymru i gynnal gŵyl baent ryngwladol yr haf hwn

18 May 2026

Bydd ‘gŵyl baent’ ryngwladol yn cael ei chynnal ar benwythnos 2 – 5 Gorffennaf 2026

Bydd dros 100 o artistiaid o bob cwr o Gymru a’r byd yn creu gwaith celf yn Grangetown, yn Butetown ac yng nghanol Caerdydd fel rhan o ŵyl gyntaf Meeting of Styles Cymru.

Cyn y digwyddiad, bydd cyfres o weithdai cymunedol yn cael eu cynnal er mwyn addysgu sgiliau paentio i grwpiau lleol – gan gynnwys EYST a’r elusen ddigartrefedd The Wallich.

Amelia Thomas, neu ‘Unity’, sy’n arwain yr ŵyl eleni. Artist o Gymru yw Unity, sy’n rhan o Brosiect Ieuenctid a Chymunedol Cathays a Chanol Caerdydd, a dyma beth oedd ganddi i’w ddweud: “Rydyn ni eisiau i’r ŵyl hon godi ymwybyddiaeth o graffiti fel ffurf gelfyddydol, gan gael gwared â’r naratif negyddol sy’n aml yn gysylltiedig â’r grefft, a dangos sut gall diwylliant HipHop ddod â chymunedau at ei gilydd.”

Gŵyl gelf stryd a graffiti ryngwladol yw Meeting of Styles, sy’n dathlu creadigrwydd a chyfnewidfa ddiwylliannol ymhlith artistiaid o bob cwr o’r byd. Bydd Cymru’n ymuno â’r rhestr o wledydd eraill sydd wedi cynnal yr ŵyl ers ei sefydlu ym 1997, gan gynnwys yr Almaen, y Ffindir, Sweden, Indonesia a’r Philippines.

Mae’r ŵyl hon yn rhad ac am ddim, a chanolbwynt yr ŵyl fydd The Canopi. Bydd ymwelwyr yn gallu prynu tocyn taith gerdded, wedi’i threfnu gan The Wallich, lle bydd pobl sydd wedi profi digartref yn eich tywys o gwmpas yr ardal leol i ddangos darnau o waith celf.

 

Mae Sean, sydd wedi bod yn gweithio gyda The Wallich, yn cymryd rhan yn y gweithdai graffiti Meeting of Styles. Dywedodd Sean: “Mae gwrando ar gerddoriaeth ac ymgolli fy hun yn y gwaith celf yn brofiad therapiwtig dros ben.”

 

textimgblock-img

Uchafbwyntiau’r ŵyl

  • Paentio byw: Bydd 100 o artistiaid o bob cwr o’r byd yn ychwanegu lliw at waliau Caerdydd drwy gydol y dydd. 
  • Mae’r safleoedd celf yn cynnwys dathliad â cherddoriaeth fyw ym Mharc Sevenoaks, Llwybr Troed y Mileniwm yn Stadiwm Principality, Stryd Wood a Sgwâr Callaghan. 
  • CYSTADLEUAETH B-BOY – Cymru yn erbyn y Byd. 
  • Cerddoriaeth fyw drwy gydol y penwythnos. 
  • “WHOLETRAIN” – arddangosiad o ffilm graffiti o’r Almaen gan Florian Gaag. 
  • Taith gerdded graffiti Caerdydd Gudd dan arweiniad The Wallich. 

Sefydlodd Lou Lockwood wal graffiti agored gyntaf a mwyaf Caerdydd ym Mharc Sevenoaks er cof am ei mab, Roxe (Bill Lockwood). Bu Lou yn peintio nes iddi golli ei golwg a methu â chario ymlaen. Y gymuned sy’n gofalu am y wal hon, ac mae Lou yn mwynhau mynd at y wal i wrando ar bobl yn disgrifio beth sydd arni.

Mae trefnu’r ŵyl wedi bod yn bosibl diolch i bartneriaid fel Loop, noddwr y paent, a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Cymunedol Cymru a FOR Cardiff.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff

“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r digwyddiad Meeting of Styles sy’n dod i Gaerdydd. Mae celf gyhoeddus yn elfen hanfodol o greu lleoedd y mae pobl eisiau treulio amser ynddynt, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddod â thalent o’r radd flaenaf i’r ddinas, ac i ddatblygu artistiaid lleol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa waith celf newydd fydd yn cael ei greu yn ystod y digwyddiad.“

“Gobeithio y bydd yr ŵyl yn ysbrydoli artistiaid newydd, yn ogystal â phobl leol, a fydd yn cael blas ar gryfder cymuned wrth iddynt ddod at ei gilydd i gyd-greu.”