Datganiad Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Ymateb The Wallich

Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ddydd Mawrth 19 Rhagfyr

22 Dec 2023

Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymorth Cymru ac elusennau eraill sy’n ymwneud â thai a digartrefedd i ddiogelu cyllid hanfodol o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio’n benodol ar bortffolio’r Gweinidog Newid Hinsawdd (dyma’r portffolio y mae tai a digartrefedd yn rhan ohono ar hyn o bryd).

Rydyn wedi galw
am gynnydd yn y Grant Cymorth Tai

Heb gynnydd, mae’n rhoi mwy o straen ar yr holl wasanaethau digartrefedd sy’n arwain yn y pen draw at fwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill fel y GIG a’r heddlu.

Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ddydd Mawrth 19 Rhagfyr

Bydd y Grant Cymorth Tai yn parhau i fod wedi’i rewi ar £167 miliwn

Sian Aldridge, Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Chymorth yr elusen digartrefedd a chysgu allan, The Wallich:

“Mae Datganiad Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn peri pryder mawr i elusennau fel ni, sy’n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai.

Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd, rydyn ni yn The Wallich a’n partneriaid yn y sector yn wynebu’r costau cynyddol parhaus sydd ynghlwm â rhedeg gwasanaethau hanfodol ar gyfer pobl yn ein cymunedau sy’n cael eu hunain ar gyrion cymdeithas. Nid yw’r cyllid rydyn ni’n ei gael yn bodloni’r galw cynyddol am ein gwasanaethau.

Mae rhewi’r Grant Cymorth Tai, sy’n ariannu’r gwasanaethau hyn, yn golygu bod y dyfodol yn dal yn llwm ac yn ansicr i elusennau fel ein un ni a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Fodd bynnag, heb gynnydd sydd o leiaf yn unol â chwyddiant yn y Grant Cymorth Tai, rydym yn gwybod na fydd modd cyflawni’r uchelgais hon ac y bydd y bobl y mae angen ein cymorth arnynt yn dioddef yn y pen draw.

Gyda sector digartrefedd llai sydd eisoes dan straen, rydym yn credu y bydd y buddsoddiad dilys mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y GIG yn ofer, yn anffodus. Wrth i fwy o bobl ddod yn ddigartref a chael eu hunain mewn sefyllfa fregus o ran cartref am gyfnodau hwy, bydd mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Rhaid i ni ofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25. Rydym yn eich annog i ailfeddwl a chynyddu’r Grant Cymorth Tai mewn termau real.”