Rwyf wrth fy modd ag ymagwedd The Wallich tuag at gyfranogiad a chynnydd. Rwy’n teimlo’n angerddol dros bobl a chredaf fod gan bawb rywbeth i’w gynnig i gymdeithas, waeth beth fo eu cefndir.
Dechreuodd Sian weithio gyda’r Wallich yn 2008 gyda Thîm Ymyrraeth Cysgwyr ar y Stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn 2020, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau a Chefnogaeth.
Ym mis Hydref 2013, dechreuodd Sian reoli Rhaglen Wirfoddoli gan Breswylwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau (RhWBDG) y Wallich drwy Gymru. Parhaodd ei swyddogaeth i ymestyn yn unol â datblygiad a chynnydd y sefydliad i gydgynhyrchu a chreu cyfleoedd ar gyfer cleientiaid, gan gynnwys datblygu ffyrdd o ymgysylltu a chynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae hi’n angerddol ynglŷn â helpu pobl i ymgysylltu â’u cymunedau drwy dreftadaeth, celfyddydau, diwylliant a chwaraeon.
Ar ôl bod yn Bennaeth ar ein tîm Cyfranogi a Chynnydd, gan gynnwys ein rhaglenni Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (GMCG) a Datblygu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (DCSLl), penodwyd Sian yn ddiweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, lle y bydd yn parhau i arwain wrth gyflawni gwasanaeth creadigol ac arloesol yn ein holl brosiectau yng Nghymru, yn ychwanegol at gefnogi ein siwrnai i ddod yn Sefydliad Amgylchedd wedi’i Oleuo yn Seicolegol (AOS).
Nid oes gan Sian gefndir yn y trydydd sector, ond mae ganddi bersbectif unigryw. Am wyth mlynedd, bu’n gweithio i gyfreithiwr gyda gradd Rheoli Busnes. Ar ôl cael plant, gwnaeth Sian benderfyniad ymwybodol i adael ei swydd yn y sector corfforaethol a defnyddio ei sgiliau i helpu pobl yn lle hynny. Rydym yn falch o ddweud nad yw erioed wedi difaru.
Ni ddylai bod yn ddigartref fod yn rhwystr rhag cyflawni nodau neu ddyheadau a gobeithio fy mod yn cyfrannu rhywfaint tuag at helpu pobl i gyflawni eu gobeithion.