Mae hi’n Ddiwrnod Digartrefedd y Byd heddiw. Diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac annog cymunedau lleol i helpu’r rhai sy’n ddigartref. Rydym yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd â Dinasoedd Anweledig (Invisible Cities) a fydd yn helpu i gyflawni’r nod, nid dim ond heddiw, ond ymhell i’r dyfodol hefyd.
Mae Dinasoedd Anweledig yn fenter gymdeithasol sy’n hyfforddi pobl y mae digartrefedd wedi effeithio arnynt i dywys ymwelwyr o amgylch eu dinasoedd eu hunain ar droed.
Mae’r teithiau hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar y ddinas, a’r tywyswyr eu hunain fydd yn dewis y themâu, gan gysylltu hanes y ddinas â’u profiadau a’u diddordebau personol eu hunain.
Y Wallich yw’r brif elusen ar gyfer digartrefedd yng Nghymru, ac mae’n cynnig llety a chymorth i tua 9,000 o bobl bob blwyddyn.
Mae’n llwyddo i gysylltu â rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed a mwyaf ar yr ymylon yng Nghymru i’w galluogi i fyw bywydau hapusach, diogelach a mwy annibynnol.
Rhan hollbwysig o waith y Wallich yw datblygu atebion cynaliadwy, tymor-hir i gael allan o ddigartrefedd.
Mae hyn yn dechrau drwy feithrin hyder a datblygu sgiliau drwy gael cleientiaid i helpu i gynllunio, darparu, gwerthuso a gwella’r gwasanaethau maent yn eu derbyn.
Drwy ddechrau cymryd rhan fel hyn, byddant yn barod i symud ymlaen i wneud gweithgareddau lle byddant yn gwneud cynnydd ffurfiol, a’r nod yw helpu pobl i gyrraedd lefel gynaliadwy o annibyniaeth drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Dechreuodd y fenter Dinasoedd Anweledig yn 2016 a hyd yma, mae wedi hyfforddi 52 o bobl fel tywyswyr yng Nghaeredin, Glasgow, Caerefrog a Manceinion.
Mae modd i dywyswyr gael eu talu neu weithio’n wirfoddol, yn dibynnu ar ba ddewis sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau ar y pryd. Os bydd tywysydd yn gweithio’n wirfoddol, yna bydd modd ailfuddsoddi’r incwm o’r teithiau yn y sefydliad a defnyddio hynny i gefnogi tywyswyr â sgiliau fel cyllidebu a rheoli arian.
Mae Dinasoedd Anweledig wedi ennill y Wobr Ranbarthol yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn ddiweddar a Gwobr Ymgyrch Ysbrydoledig yng Ngwobrau Ysbryd Manceinion 2019.
Meddai Sylfaenydd Dinasoedd Anweledig, Zakia:
“Rydyn ni wrth ein bodd cael dechrau gweithio gyda’r Wallich yng Nghymru. Maen nhw’n ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl felly mae cael teithiau Dinasoedd Anweledig yn rhan o’r hyn maen nhw’n ei gynnig yn gweithio’n dda iawn.
“Hefyd, mae Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer y teithiau, gyda miloedd o ymwelwyr, digwyddiadau a hanes cyfoethog i’w rannu.
Pan ddechreuais i’r fenter Dinasoedd Anweledig dair blynedd yn ôl, fyddwn i erioed wedi gallu dychmygu cyrraedd dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig, ond dyma ni, yn lansio rhywbeth arbennig mewn pumed lleoliad. Am daith anhygoel hyd yma!”
Bydd tywyswyr yn cael hyfforddiant o safon – fel rheol bydd hyfforddiant ar ffurf gweithdy am dri diwrnod llawn, cyn iddynt weithio am rhwng pedwar mis a blwyddyn yn datblygu eu taith eu hunain ac yn ymarfer.
Bydd partneriaid creadigol a chymunedol yn darparu’r elfen hon o’r prosiect, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Byddant yn defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd i gofnodi, dehongli ac ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd wrth drafod hanes a threftadaeth.
Dywedodd Amy Lee Pierce, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Wallich:
“Dyma un o’n partneriaethau mwyaf cyffrous hyd yma, ac allwn ni ddim aros i ddechrau arni. Mae nod Dinasoedd Anweledig, sef grymuso pobl i fod yn annibynnol a chael gwared ar stereoteipiau i ddangos bod gan bawb botensial, yn taro tant go iawn â’n sefydliad ni.
“Mae pawb yn haeddu perthyn yn rhywle, a bydd y prosiect hwn yn galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd gan gael eu dathlu a’u gwobrwyo am hynny, ac ar yr un pryd, byddant yn cyflwyno dinas anhygoel Caerdydd mewn goleuni unigryw a dilys.”