Lansio gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen i atal digartrefedd

09 Mar 2020

Bydd gwasanaeth newydd i gefnogi pobl sydd â phroblemau yn ymwneud â digartrefedd, tai a budd-daliadau yn agor yn swyddogol ddydd Mercher 26 Chwefror. Bydd y prosiect yn helpu pobl ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân a Blaenafon ac mae’n cael ei redeg gan yr elusen flaenllaw yng Nghymru ar gyfer digartrefedd, sef y Wallich.

Mae’r Wallich yn gweithio ledled Cymru ac mae ganddynt arbenigedd penodol mewn digartrefedd ac atal y risg o ddigartrefedd. Bydd y gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth newydd yn gweithio gyda phobl i wneud yn siŵr eu bod yn aros mewn llety diogel ac addas ac yn helpu pobl mewn argyfwng.

Bydd hefyd yn gweithredu fel cyfryngwr rhwng tenantiaid a landlordiaid yn y sectorau preifat a chymdeithasol i wneud yn siŵr na fydd neb yn dod yn ddigartref.

Amcangyfrifodd niferoedd cysgu allan blynyddol Llywodraeth Cymru fod saith o bobl yn cysgu ar strydoedd Torfaen yn ystod cyfnod y cyfrifiad a gynhaliwyd am bythefnos ym mis Tachwedd 2019. Mae hyn yn gynnydd o bum person o’r flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd o’r adroddiadau bod neb yn cysgu allan yn 2017.

Bydd gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen y Wallich, a gomisiynwyd gan arian Cefnogi Pobl Cyngor Sir Torfaen, yn gweithredu fel dull ataliol. Ni fydd hyn er mwyn atal cysgu allan yn unig, ond er mwyn atal ôl-ddyledion rhent a dyledion hefyd, sef mater sy’n dod yn fwy amlwg ar gyfer tenantiaid a landlordiaid.

Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm cymorth mewn argyfwng ar gael i bobl sy’n ddigartref ar y stryd, pobl sy’n cysgu ar soffa neu bobl mewn llety dros dro ac sydd angen cymorth.

Oriau agor a lleoliadau canolfannau Cymorth Tenantiaeth Torfaen

Mae prif swyddfa Torfaen y Wallich ar Heol Hanbury, Pont-y-pŵl. Mae’r swyddfa ar agor i roi cymorth a chyngor rhwng 8am a 6pm ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am ac 1pm ar fore Sadwrn.

Bydd yr elusen yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws yr awdurdod lleol i helpu cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn y gymuned.

Manylion galw heibio

Diwrnod  Amser  Lleoliad 
Dydd Llun 9am – 4pm Canolfan Gwaith Cwmbrân
Dydd Mawrth 10am – 12.30pm Campws Cymunedol Blaenafon
1.30pm – 4pm Canolfan Gwaith Pont-y-pŵl
Dydd Mercher 10.00am – 4pm Pearl Assurance House, 12 Heol Hanbury, Pont-y-pŵl
Dydd Iau 9am – 4pm Canolfan Gwaith Cwmbrân
Dydd Gwener 9am – 4pm Canolfan Ddinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Pont-y-pŵl

Bydd gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen yn cynnal diwrnod agored rhwng 11am a 1pm ddydd Mercher 26 Chwefror, lle gall aelodau’r cyhoedd ac asiantaethau eraill ddysgu mwy am y prosiect.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Ardal Dde-ddwyrain Cymru y Wallich,

“Mae’n anffodus ein bod yn gorfod dod â’n gwasanaethau i Dorfaen ond rydym yn falch o allu camu i’r adwy. Er ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned wych, mae’n drueni mai’r cynnydd mewn digartrefedd a’r galw am help sy’n dod â ni yma.

“Ond, ynghyd â helpu pobl â’u sefyllfaoedd tai ariannol a thai, bydd unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen yn cael y cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o brosiectau dysgu a datblygu’r Wallich.

Rydyn ni’n credu bod atal digartrefedd yn golygu mwy na rhoi to uwchben rhywun. Rydyn ni eisiau helpu i wella hyder, sgiliau a chyflogadwyedd pobl a mynd i’r afael â’u hanghenion llety, gyda’r gobaith o ddyfodol mwy disglair.”

Tudalennau cysylltiedig