Cyhoeddi llyfr poced ar gysgu ar y stryd ar gyfer Cwpan y Byd Digartref

30 Jul 2019

I gyd-fynd â Chwpan y Byd Digartref, bydd llyfr poced gwrth-ddŵr i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael ei gynhyrchu gan y Wallich, y brif elusen ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd. Cafodd yr wybodaeth y tu mewn ei churadu gan Marky Quinn, oedd yn arfer cysgu ar y stryd, a fu farw eleni.

Mae canllaw bras Marky i gysgu allan yng Nghaerdydd – Rough Guide to Rough Sleeping in Cardiff – yn cynnwys map o Gaerdydd, cyngor yn seiliedig ar ei brofiadau personol, rhifau ffôn a rhestr o’r llefydd gorau i gael bwyd, dillad a chyngor bob dydd o’r wythnos.

textimgblock-img

Cogydd oedd y curadur, Marky Quinn, ond pan oedd yn 35 oed, daeth yn ddigartref. Yn anffodus, bu farw Mr Quinn yn gynharach eleni, a fu’n cysgu yng Nghaerdydd mewn meysydd parcio, o flaen drysau ac o dan y llwyni ym Mharc Bute dros gyfnod o ddwy flynedd.

Bu Marky’n gweithio gyda’r Wallich i lansio’r rhifyn cyntaf yn 2009.

Mae’r holl wybodaeth nawr wedi cael ei diweddaru a’i hailargraffu er cof amdano.

Cynhyrchwyd y canllaw bras i gysgu allan yng Nghaerdydd – Rough Guide to Rough Sleeping in Cardiff – gyda chefnogaeth Sefydliad Moondance i gyd-fynd â Chwpan y Byd Digartref 2019, a gynhelir ym Mharc Bute rhwng 27 Gorffennaf a 2 Awst.

Mae’r llyfryn, sy’n ceisio helpu pobl sy’n ddigartref, wedi rhoi ystyr ingol newydd i’r ymadrodd Saesneg “rough guide”. Mewn cyferbyniad llwyr â’r canllawiau teithio poblogaidd, sy’n rhestru atyniadau a’r llefydd gorau i fwyta, mae’r canllaw newydd hwn i gysgu allan yn dangos sut mae’n bosibl ymdopi â byw ar strydoedd Caerdydd.

textimgblock-img

Mae’r gwaith wir yn ganllaw trefol ar sut i oroesi, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut mae gofalu am gi tra rydych chi’n ddigartref, cadw eich dillad chi’n sych a bod yn ddiogel gyda’r nos.

Ynghyd â thirnodau fel Stadiwm Principality a Chanolfan Siopa Dewi Sant 2, mae’r map yn dangos lle gellir cael pryd o fwyd a llety.

Yn 2009, ysgrifennodd Mr Quinn, a oedd yn wreiddiol o Gaerdydd, gan ddisgrifio ei brofiadau ei hun,

“Pan ddechreuais gysgu ar y stryd, roeddwn i’n meddwl mai gwneud hynny dros dro y byddwn i ac y byddai rhywbeth yn codi. Roedd hi’n ddychrynllyd o oer. Roedd dod o hyd i rywle i gysgu, rhywbeth i’w fwyta ac ati yn frwydr gyson…mae fel byw ar ynys bellennig. Ble’r ydych chi’n siafio? Ble’r ydych chi’n ymolchi?”

Anogodd pobl i edrych ar bobl ddigartref mewn goleuni newydd, gan ddweud, “Mae pobl wych allan yna sydd angen bod yn rhan o gymdeithas eto. Dydyn nhw ddim yn rhwystr; pobl ydyn nhw sydd angen help.”

Dywedodd Amy Lee Pierce, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn y Wallich,

“Rydyn ni mor falch o ailgydio yng ngwaith Marky ar gyfer Cwpan y Byd Digartref. Roedd Marky wrth ei fodd â phêl-droed ac mae’r twrnamaint yn ymddangos fel y lle priodol i ddathlu lansiad ei ganllaw.

Mae rhoi llais i ddefnyddwyr ein gwasanaeth mor bwysig i ni ac rydyn ni’n gobeithio bod arddull y llyfryn hwn a’r ffaith mai rhywun â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd sydd wedi’i ysgrifennu yn ei wneud yn fwy difyr ac yn annog pobl sy’n cysgu ar y stryd i estyn allan am gymorth”.

Gan groesawu timau o dros 50 o wledydd, mae Cwpan y Byd Digartref yn lle i bobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd feithrin hyder, sgiliau a theimlo’n rhan o gymuned bêl-droed fywiog. Bydd y Wallich ar y safle yn ystod yr wythnos gyfan i ymgysylltu â’r rheini sy’n ystyried eu hunain yn ddigartref yn y twrnamaint a’u helpu i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.

Tudalennau cysylltiedig