Seren Love Island yn cael ei herio i ddeifio dros ddigartrefedd gyda Dilys Price OBE

Jamie Jewitt yn derbyn her gan Camilla Thurlow i neidio allan o awyren i'r Wallich

23 Feb 2020

Dive With Dilys

Ar ddydd Sul 29 Mawrth 2020, bydd Dilys Price OBE, y deifiwr awyr record byd 87 oed, Jamie Jewitt o raglen Love Island ITV, ac aelodau o’r cyhoedd, yn neidio allan o awyren yn Abertawe i’r Wallich, elusen flaenllaw ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd yng Nghymru.

Heriwyd Jamie gan Camilla Thurlow, ei gyd-seren ar Love Island, i neidio dros ddigartrefedd. Dywedodd Camilla ar ei stori Instagram ddydd Sul,

“Y llynedd, bydd rhai ohonoch yn gwybod i mi fod yn ddigon ffodus i wneud deif-awyr gyda Dilys Price, sy’n berson hollol anhygoel.

“Roedden ni’n sgwrsio’n gynharach eleni am y gwaith ardderchog y mae’n ei wneud gyda’r Wallich, elusen ddigartrefedd yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio gyda dros 9,000 o bobl ac yn gwneud gwaith gwych.”

“Y ffaith yw, mi wnes i herio Jamie i wneud deif-awyr gyda Dilys i’r Wallich.”

View this post on Instagram

A post shared by Jamie Jewitt (@jamiejewitt_) on


Ar ôl derbyn yr her bydd Jamie, er bod arno ofn uchder, a Dilys yn neidio gyda’i gilydd 12,000 troedfedd allan o awyren gyda deifwyr awyr proffesiynol yn Skydive Swansea.

Mae Dilys, o Gaerdydd, yn enillydd gwobr Balchder Prydain; dechreuodd ddeifio o’r awyr yn 54 oed. Yn 81 oed enillodd Record Guinness y Byd fel y ferch hynaf i ddeifio o’r awyr. Erbyn 2017 roedd Dilys wedi gwneud 1,139 o ddeifiau-awyr solo. Bydd Dilys yn neidio mewn tandem â thîm deifwyr y Wallich i godi ymwybyddiaeth o’r cynnydd mewn digartrefedd.

Meddai Dilys, “Rwy’n credu bod dwy reddf ynom: un i oroesi a’r llall i wasanaethu. Credaf mai’r unig adeg y mae pobl yn wir hapus yw pan allwn roi mynegiant i’r ddwy reddf a rhaid cofleidio hyn os am greu cymuned dda.

“Rwyf wastad yn dweud, ‘Rhaid edrych ar fywyd drwy don o gariad.’ Mae bod yn ddyngarol a charedig mor bwysig i helpu pobl mewn angen. Awn i’r gampfa i gryfhau ein cyhyrau a’n cyrff, ond mae caredigrwydd yn gyhyr ysbrydol a rhaid ymarfer hwnnw hefyd.” Yn ymuno â Jamie a Dilys yn yr awyr, bydd y tîm o ddeifwyr awyr dewr yn gobeithio codi tua £2,500 i’r Wallich, i dalu am gymorth a chefnogaeth i’r nifer gynyddol o bobl sy’n ddigartref yng Nghymru.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU, mae cysgu ar y stryd ar draws y DU wedi cynyddu o 165% rhwng 2010 a 2019. Mae’r Wallich yn gweithio pob blwyddyn gyda dros 9,000 o bobl sy’n ddigartref neu gyda chartrefi bregus ledled Cymru. Yn ogystal â helpu pobl i gael cartref sicr, mae’r elusen hefyd yn ceisio ateb problemau cyllidebu, lles, cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl a chyflogadwyedd i roi diwedd ar eu digartrefedd am byth.

Yn ôl Mike Cowley, uwch godwr arian a rheolwr partneriaethau gyda’r Wallich,

“Ni all neb wadu fod pobl ddigartref yn fwy amlwg ar ein strydoedd, ar hyd a lled y wlad. Mae’n wych gweld pobl gyda llwyfan mor fawr yn defnyddio eu dylanwad i wneud rhywbeth am hyn. Yn y Wallich, credwn fod gan bawb gyfrifoldeb i ddatrys yr argyfwng digartrefedd cenedlaethol hwn. Ni allwn ddiolch digon i Dilys, Camilla a Jamie am roi uchel-seinydd i’r achos hwn.”

Meddai Bethan, sy’n 16 oed ac a fydd yn gwneud ei deif-awyr cyntaf ar y diwrnod,

“Ni allaf aros i ddeifio o’r awyr gyda Dilys a Jamie. Mae fy nheulu wastad wedi fy ngalw’n dipyn o fentrwr ac ers yn blentyn roeddwn bob tro ar yr olwyn ffair fwyaf, yn dal y nadroedd mwyaf ac yn dawnsio (yn wael) ar lwyfan o flaen cannoedd o bobl.

“Rwyf wastad wedi bod eisiau gwneud deif-awyr a thybiais y byddai’n rhaid i mi aros tan oeddwn yn ddeunaw. Ar ôl dod yn ffrindiau gyda Dilys ar noson “Pwy yw’r llofrudd?” i’r Wallich a chael gwybod y gallwn ei wneud ddwy flynedd yn gynnar, roeddwn yn gyffro i gyd. Gallaf ddweud wrth fy mhlant, wyrion ac wyresau am hyn rhyw ddydd a rhoi teimlad o falchder i fy nheulu.”

Roedd Camilla a Jamie ar Love Island yn 2017 a bu’r ddau’n gwneud llawer iawn o waith dyngarol ac elusennol. Mae Camilla’n arbenigwr ar waredu ordnans ffrwydrol ac yn weithgarwr i Ymddiriedolaeth HALO, sy’n clirio ffrwydron tir a ffrwydron eraill mewn gwledydd yn dilyn rhyfel. Yn gweithio ag Indigo Volunteers a Help Refugees, yn 2017 aeth Jamie a Camilla hefyd i Wlad Groeg i wirfoddoli mewn gwersylloedd ffoaduriaid.

Rhowch i’r ymgyrch Deifio gyda Dilys

Tudalennau cysylltiedig