Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi cynnydd o 7.7% mewn marwolaethau ymysg pobl ddigartref yn 2021

24 Nov 2022

The Wallich yn ymateb wrth i farwolaethau pobl sy’n profi digartrefedd gyrraedd yr un lefelau â chyn y pandemig

textimgblock-img

Ddydd Mercher 23 Tachwedd, rhyddhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei ffigurau blynyddol ar gyfer nifer y bobl a fu farw y llynedd tra’r oeddent yn ddigartref yng Nghymru a Lloegr.

Amcangyfrifwyd bod 741 o bobl wedi marw o ganlyniad i ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr yn ôl cofrestriadau 2021.

Beth yw’r pethau amlycaf sy’n achosi marwolaeth i bobl sy’n ddigartref?

Roedd bron i ddau o bob pump o’r marwolaethau a gofnodwyd yn gysylltiedig â gwenwyno drwy gyffuriau yn 2021 (amcangyfrif o 259 o farwolaethau; 35% o’r cyfanswm).

Bu farw 99 o bobl drwy hunanladdiad. Bu farw 71 o bobl yn benodol oherwydd alcohol. Roedd y rhain yn cynrychioli 13.4% a 9.6% o’r holl farwolaethau yn y drefn honno.

Amcangyfrifwyd bod 26 o bobl a fu farw (3.5% o’r cyfanswm) yn bobl a oedd yn ddigartref ac a gafodd y coronafeirws (COVID-19) yn 2021; roedd hyn ddwywaith yn fwy na’r nifer a amcangyfrifwyd yn 2020 (13 marwolaeth).

Yng Nghymru y bu farw tua 40 o’r bobl hynny a fu farw heb gartref.

Dywedodd Amy Lee Pierce, y Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus:

“Mae pob un sy’n marw’n ddigartref yn drasiedi, ac ar ben y cynnydd o 7.7% mewn ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, credwn fod y nifer yn debygol o fod yn uwch na’r nifer a gofnodwyd.

“Yn groes i farn y cyhoedd, nid mater wedi ei gyfyngu i’r Nadolig yw digartrefedd, na mater a welir yn y gaeaf yn unig, chwaith. Nid yw pobl yn marw dim ond am ei bod hi’n oer. Mae pobl yn marw drwy gydol y flwyddyn am lu o resymau y gellir eu hatal.

“Ar y lleiaf, mae’r ffigurau’n dangos bod tua 741 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi marw wrth wynebu digartrefedd y llynedd.

“Mae hynny’n 741 o bobl sy’n frawd neu’n chwaer i rywun, yn rhiant neu’n blentyn i rywun, sydd wedi ein gadael ni.

“O un flwyddyn i’r llall, rydyn ni’n gweld yr un rhesymau trasig pam mae pobl ddigartref yn marw cyn eu hamser: hunanladdiad a heriau gyda sylweddau.

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni hefyd wedi galaru ar ôl y rhai a fu farw oherwydd COVID nad oedd ganddynt le diogel a pharhaol i’w alw’n gartref.

“Yn yr un modd ag y digwyddodd yn ystod COVID, mae angen ymateb iechyd y cyhoedd i ddigartrefedd, nid ymateb o ran llety yn unig, er mwyn achub bywydau gwerthfawr.

“Dim ond dull gweithredu ledled Cymru sy’n seiliedig ar drawma gan bob llywodraeth, gwasanaeth cyhoeddus a phartner fydd yn arwain at ostyngiad parhaus yn y ffigurau hyn.

“Rhaid i bawb ohonom weithio gyda’n gilydd i atal pob marwolaeth gynnar y mae modd ei hosgoi ymysg pobl sy’n profi digartrefedd, camddefnyddio sylweddau a thrawma.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref yng Nghymru.

Tudalennau cysylltiedig