The Wallich yn ennill gwobr aur yng ngwobrau PRide Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR)

06 Nov 2018

Mae ymgyrch gaeaf 2017 The Wallich Cyrraedd at Rai sy’n Cysgu Allan | Reaching Out to Rough Sleepers wedi ennill Gwobr Aur yng ngwobrau PRide Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) 2018.

Roedd ein tîm cyfathrebu’n falch dros ben o fod ar y rhestr fer ar gyfer y categori Dielw yng ngwobrau PRide Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus eleni.

Er gwaetha cystadleuaeth gref gan asiantaethau Cysylltiadau Cyhoeddus rhanbarthol ac elusennau cenedlaethol, rydym yn hynod o falch ein bod wedi ennill Gwobr Aur ar gyfer ein hymgyrch gaeaf 2017, Cyrraedd at Rai sy’n Cysgu Allan /Reaching Out to Rough Sleepers, yng nghynllun gwobrwyo cenedlaethol pwysicaf y DU ar gyfer y diwydiant cyfathrebu.

Edrychwch ar yr astudiaeth achos ar gyfer yr ymgyrch llwyddiannus.

Cyrraedd at Rai sy’n Cysgu Allan / Reaching Out to Rough Sleepers yw’r wobr gyfathrebu gyntaf i The Wallich ei hennill.

Mae ymgyrch y gaeaf yn cael ei chynnal yn gyson yn The Wallich gan fod y cyhoedd ar y cyfan yn fwy ymwybodol o bobl yn cysgu allan yn ystod cyfnodau o dywydd oer. Bu ymgyrch 2017 yn llwyddiannus oherwydd amseru priodol a defnyddio sianelau cywir.

Meddai beirniad y CIPR:

“Llwyddodd yr ymgyrch yma i gyflawni y tu hwnt i’r disgwyl, gan ddangos defnydd deallus o bartneriaethau ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid i gyflawni nodau’r ymgyrch.

“Roedd yr ystod eang o weithgareddau cyfathrebu’n golygu bod yr ymgyrch yn gweithio mor galed â phosibl i gyrraedd – a rhagori – ar y targed codi arian.”

Meddai Amy Lee Pierce, rheolwr CC a chyfathrebu:

“Roeddem yn llwyr gredu yn yr ymgyrch a’i phŵer i sicrhau newid gwirioneddol i’r bobl a gynorthwywn. Yn ogystal â chodi swm sylweddol o arian, ein nod oedd cynyddu gwybodaeth a chydymdeimlad y cyhoedd tuag at bobl sy’n profi digartrefedd. Gwyddom ein bod wedi cyflawni hyn.

“Fodd bynnag, cawsom ein synnu ein bod wedi ennill y wobr – yn enwedig o ystyried bod cystadleuaeth mor gref yn ein herbyn. Rwy’n hynod o falch o waith caled a chreadigrwydd ein tîm cyfathrebu mewnol bach. Rwy’n edrych ymlaen at ddarparu gwaith arbennig er budd ein defnyddwyr gwasanaeth drwy Gymru.”

Tudalennau cysylltiedig