Dylai’r Swyddfa Gartref ailystyried rheolau mewnfudo sy’n targedu pobl sy’n cysgu allan i’w hallgludo

Ymateb The Wallich

06 Nov 2020

mewnfudo

Mae rheolau mewnfudo newydd sy’n dod i rym 1 Rhagfyr yn golygu y gallai pobl sy’n cysgu allan, nad ydyn nhw’n ddinasyddion y DU, gael eu hallgludo.

Mae pobl sy’n cysgu allan ar strydoedd Prydain yn rhai o’r unigolion mwyaf ymylol ac a anwybyddir fwyaf yn ein cymdeithas.

Eto, mae Llywodraeth y DU yn ystyried newidiadau i reolau mewnfudo a allai wneud bywyd hyd yn oed yn fwy ansicr, mewn diweddglo creulon i flwyddyn sydd eisoes wedi bod yn hynod o anodd oherwydd y pandemig byd-eang.

Gallai’r cynigion gan yr Ysgrifennydd Cartref weld pobl yn colli eu hawl i aros yn y DU, a bod mewn perygl o allgludo, hyd yn oed os ydyn nhw’n cysgu allan am un noson.

Yn ogystal â bod yn ddideimlad heb fod angen, ni fydd y polisi hwn yn gwneud dim i fynd i’r afael ag achosion cymhleth digartrefedd a chysgu allan.

Mewn gwirionedd, bydd yn gwneud y gwrthwyneb: annog pobl i beidio â cheisio’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, a’u gwthio i sefyllfaoedd anniogel ac ecsbloetiol, ac efallai caethwasiaeth fodern hyd yn oed.

Mae The Wallich yn ymuno â Crisis, Shelter, St. Mungo’s a 70 o sefydliadau eraill i alw am wrthdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.

Darllenwch y llythyr ar y cyd a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel AS

gilydd

Beth gallwch ei wneud

Llofnodi’r ddeiseb

Os ydych yn poeni am unrhyw un sy’n cysgu allan, ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor

Tudalennau cysylltiedig