Gyda chaniatâd ei deulu a chyda chalon drom rydyn ni wedi ysgrifennu teyrnged i un a fu’n gweithio ochr yn ochr â The Wallich am flynyddoedd lawer – Jimmy, Llysgennad Prosiect BOSS.
Credyd llun: Huw John
Fe wnaethon ni gwrdd â Jimmy mewn cynhadledd yn 2016, pan enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion. Cyflwynodd araith am ei daith, ei adsefydlu a’i addysg.
Gwnaeth ei lwyddiannau argraff fawr arnon ni ac fe gysyllton ni ag ef i ddweud wrtho am ein prosiect BOSS newydd, (sef Datblygu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant) i weld a hoffai gymryd rhan.
Mae BOSS yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol, i’w cefnogi i symud ymlaen i’r bennod nesaf yn eu bywydau.
Roedd Jimmy yn gwneud hynny. Roedd yn gweithio ym maes adeiladu yng Nghaerdydd ar y pryd a daeth i gwrdd â ni yn ystod ei egwyl cinio.
Fe wnaethon ni ddweud wrtho am BOSS, yr ethos sy’n sail iddo a nodau’r prosiect.
Fe wnaethon ni ei wahodd i fod yn llysgennad ar ran y prosiect. Doedd dim dwywaith y byddai ei stori’n ysbrydoli pobl eraill ac roedden ni am gynnig llwyfan iddo rannu’r stori honno.
Roedd Jimmy’n awyddus iawn, ac felly fe fanteisiodd ar y cynnig ar unwaith. Ymunodd â ni yn y digwyddiad lansio swyddogol ar gyfer BOSS yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd yn ystod gaeaf 2016.
Safodd o flaen bron i 100 o bobl a siaradodd yn agored am ei daith a’i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Teithiodd Jimmy i Gaerdydd yn rheolaidd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd prosiect, y grŵp llywio a’r gwerthusiad.
Roedd Jimmy yn un da am rannu gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn BOSS yn helaeth – i bobl a fyddai’n elwa o’r prosiect ac i bobl a allai helpu i sicrhau ei fod yn llwyddo.
Roedd Jimmy yn dal ar ei daith ei hun ac yn ceisio penderfynu pa lwybrau i’w dilyn a ble i ddatblygu ei sgiliau. Felly, fe wnaethon ni gynnig cefnogaeth ac arweiniad iddo pan ofynnodd amdano.
Roedd yn ddyn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn uchelgeisiol.
Roedd ganddo amrywiaeth o ddiddordebau, sgiliau a rhinweddau, a byddai ganddo syniad busnes newydd yn aml i’w rannu gyda ni.
Roedd Jimmy yn gaffaeliad i The Wallich. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am fod yn rhan o’i fywyd ac am yr effaith a gafodd ei gyfraniad ar y rhai y mae’n parhau i’w cefnogi.
Fe wyddom fod Jimmy wedi cael effaith barhaol ar y rhai a gyfarfu ac a weithiodd gydag ef ar draws amrywiaeth o sectorau.
Er na all unrhyw eiriau fynegi ein tristwch am ei golled, rydyn ni’n gobeithio bod y deyrnged hon yn dangos ein diolchgarwch am ei amser a’i ymwneud â ni.
Rydyn ni’n dal i feddwl am ei deulu, ei ffrindiau a’r bobl y gwnaeth eu hysbrydoli ar hyd y daith yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Credyd llun: Huw John
“I mi, bydd y chwerthin mawr a’r synnwyr digrifwch beiddgar tebyg, yn ogystal â’r sgyrsiau dwfn ac ystyrlon a gefais gyda Jimmy yn aros gyda mi.
Do, fe wnaeth o fy ysbrydoli i wella fy mywyd a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, ond yn fwy na hynny roedd yn arwain y ffordd ac yn rhagori ym mhopeth a wnaeth.
Mae colled fawr ar ôl Jimmy, a bydd y golled honno’n parhau.”