The Other Room a’r elusen ddigartrefedd o Gymru, The Wallich yn cynhyrchu drama newydd sy’n cael ei pherfformio ar strydoedd Caerdydd

26 Jun 2025

Bydd theatr tafarn Caerdydd The Other Room yn cynhyrchu drama newydd sbon gan y dramodydd o Gymru Owen Thomas, a wnaed mewn partneriaeth â’r elusen digartrefedd, The Wallich

Stori am gartref, gobaith a digartrefedd yw An Orange in the Subway a ysbrydolwyd gan hanesion pobl go iawn am fywyd ar y strydoedd a bydd yn cael ei pherfformio ar y strydoedd yng Nghaerdydd.

Bydd An Orange in the Subway yn cael ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig The Other Room Dan Jones, ac mae’n cynnwys cast o actorion proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth, a bydd yn cael ei pherfformio ym Mharc Mackenzie, Canol Dinas Caerdydd, 9 – 27 Medi 2025.

textimgblock-img

“Nid un ddinas yw Caerdydd ond gwahanol ddinasoedd ar lefelau gwahanol. Un i’r diafoliaid ac un i’r angylion.

Wrth i’r strydoedd concrid losgi â’u hoerfel, mae Cassie yn sicr bod rhywun yn cadw golwg arni. A oes angylion gwarcheidiol yn cerdded strydoedd Caerdydd mewn gwirionedd? Efallai eu bod. Efallai mai rwtsh yw’r cyfan. Achos pwy fyddai’n poeni dim amdani hi?!

Yn cael ei pherfformio ar yr union strydoedd a gan y bobl wnaeth ei hysbrydoli, mae drama newydd abswrd a gwyllt Owen Thomas yn ymdrin â chwestiynau dwys o safbwynt lefel y pen-glin y rhai sy’n cysgu allan yng Nghaerdydd. Beth mae cael cartref yn ei olygu? A oes unrhyw obaith y bydd rhywun yn dod o hyd i chi yma?

Ac.

O ble daeth yr orenau yna?”

Mewn partneriaeth â’r elusen ddigartrefedd o Gymru, The Wallich, bydd ‘An Orange in the Subway’ yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored ym Mharc Mackenzie, Caerdydd.

Bydd yn cynnwys cast a thîm creadigol fydd yn gyfuniad o ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich a gweithwyr proffesiynol profiadol, mae ‘The Other Room’ yn croesawu ei normal crwydrol newydd gyda’r cynhyrchiad diweddaraf hwn.

Cychwynnodd An Orange in the Subway ei thaith fel drama fer ar gyfer ‘Gŵyl Artistiaid Ifanc’ The Other Room.

Dywedodd y dramodydd Owen Thomas:

“Ar y dechrau nid oeddwn yn siŵr beth oeddwn am ysgrifennu amdano. Yna digwyddodd dau beth. Fe wnes i gerdded trwy Gaerdydd ar noson oer o aeaf a chyfrif 30 o bebyll wedi rhewi. A’r diwrnod wedyn es â’m ci am dro trwy isffordd yn agos i’m cartref, ac fe welais oren yn union yn y canol. Nid oedd hi yno pan wnaethon ni gerdded yn ôl, ond y bore canlynol, eto yn union yng nghanol yr isffordd, roedd oren arall… O’r ddwy ysbrydoliaeth yma fe wnes i ysgrifennu drama fer, ond roeddwn yn teimlo yn fy nghalon nad oedd gwirionedd ynddi am nad oeddwn wedi siarad â phobl oedd wedi byw trwy ddigartrfedd.

Yn 2022 fe wnes i ymateb i alwad am awdur i weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ‘The Wallich’. Cefais gynnig y swydd ac fe newidiodd fy mywyd. Heuodd y prosiect cychwynnol yma hadau ‘The Story Project’ ac am y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod y bobl sydd wedi ysbrydoli mwyaf arnaf, cynnig cyfleoedd iddyn nhw ymwneud â theatr yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, dweud eu storïau eu hunain.

Yn ei hanfod drama am sut yr ydym, yn y cyfnodau tywyllaf, yn glynu at arwyddion a rhyw obaith y bydd hud a lledrith yn ymyrryd a’n hachub yw An Orange in the Subway. Mae’r fersiwn ddiwygiedig hon o’r ddrama yn cael ei chyflwyno’n annwyl i’r bobl ryfeddol yr wyf wedi eu cyfarfod dros y tair blynedd ddiwethaf, llawer ohonyn nhw yr wyf yn falch o gael eu galw’n ffrindiau, a rhai ohonyn nhw nad ydyn nhw gyda ni bellach yn anffodus.”

Dywedodd Rosie Seager o The Wallich:

“Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Wallich wedi bod yn gweithio gyda grŵp anhygoel yng Nghaerdydd fel rhan o The Story Project oedd yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, prosiect chwedleua trwy Gymru i bobl sydd wedi profi digartrefedd. Fe wnaethom agor y drws i fyd theatr, ac fe wnaethon nhw ruthro trwyddo gyda dewrder, didwylledd a dyhead ffyrnig i’w ddefnyddio fel llwyfan i alw am newid ar frys i’r systemau sy’n methu cyflawni ar eu rhan yn gyson.

Gan weithio gydag Owen a The Other Room dros y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw i gyd wedi dod o hyd i’w swyddogaeth yn actio, ysgrifennu, cyfarwyddo, rheoli llwyfan ac ochr dechnegol theatr a thrwy An Orange in the Subway maen nhw’n datblygu’r sgiliau yma i’r llwyfan proffesiynol.

Mae’r profiad hwn yn un sy’n newid bywyd, gan eu galluogi i amlygu gwirionedd beth mae’n ei olygu bod yn ddigartref yng Nghaerdydd a ffynnu yn y talentau newydd y maent wedi dod o hyd iddyn nhw; i rai mae’r prosiect hwn wedi bod yn gatalydd ar gyfer gyrfaoedd newydd ac i bawb mae wedi cynnig cymuned, hyder ac ymdeimlad dwfn o falchder ynddyn nhw eu hunain na fydden nhw fyth wedi dod o hyd iddo hebddo.”

Meddai Dan Jones Cyfarwyddwr Artistig The Other Room a Chyfarwyddwr An Orange in the Subway:

“Rydym wedi bod yn meddwl llawer am beth mae cael cartref yn ei olygu. Cawsom naw mlynedd da o fod â lle i’w alw yn un ni ac mae ei absenoldeb dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael ei deimlo’n fawr. Tra bydd ein gwaith chwilio am gartref newydd yn parhau rydym yn parhau i greu theatr mewn mannau lle na fydd theatr wedi bod o’r blaen.

Cychwynnodd An Orange in the Subway ei thaith fel drama Gŵyl Artistiaid Ifanc. Ers hynny mae Owen a The Other Room wedi symud i bob pwrpas i The Wallich. Mae ein Cyfarwyddwr Cymunedol ac Owen wedi bod yn gweithio’n wythnosol gyda The Wallich a’i Defnyddwyr Gwasanaeth ers 2023.

Er y gall TOR fod yn fwy nomadig ar hyn o bryd, nid yw hyn yn cymharu â’r miloedd o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan ar ein strydoedd ar draws y wlad. Mae’n dorcalonnus. Wrth glywed â’m clustiau fy hun a gweld beth mae’r elusen yn ei wneud, mae The Wallich yn ysbrydoliaeth wirioneddol ac mae’r cryfder y mae ei defnyddwyr yn ei ddangos, a’r sefyllfa ddychrynllyd sy’n creu digartrefedd wedi cyfoethogi’r ddrama fer hon tu hwnt i adnabyddiaeth. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r defnyddwyr gwasanaeth eu hunain a fydd yn rhan o’r cast a’r tîm creadigol. Sy’n gwneud An Orange in the Subway yn gywaith gwirioneddol sy’n wahanol i bopeth yr ydym wedi ei wneud o’r blaen.”

Mae tocynnau ar gyfer An Orange in the Subway ar gael gan

Otheroomtheatre.com
www.ticketsource.co.uk/otherroomtheatre

Noson i’r Wasg: Dydd Iau 11 Medi, 7.30pm

Amcangyfrif o’r amser 1 awr.

Lleoliad: Parc Mackenzie, Park Place, Caerdydd, Cymru, CF10 3AT
(Tu ôl i Amgueddfa Cymru Caerdydd ac yn agos at Brif Adeilad, Prifysgol Cymru) 

Tocynnau

Canllaw oedran 16+