The Wallich wedi cael achrediad Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl

11 May 2023

Yn dilyn cyfres o arolygon a chyfweliadau gyda staff The Wallich, mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi dyfarnu safon aur iddo

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn falch iawn o roi achrediad aur ‘Rydym yn buddsoddi mewn pobl’ i The Wallich.

Mae achrediad aur yn golygu mwy na’r polisïau sydd gennych ar waith.

Mae’n golygu bod pawb, o’r Prif Swyddog Gweithredol i’r Gofalwr, yn cymryd perchnogaeth dros gyfrannu at ddiwylliant y gweithle ac yn gwneud i weledigaeth, gwerthoedd a pholisïau ddod yn fyw.

Dim ond 26% o fudiadau sy’n cael achrediad aur ac ystyr creiddiol hynny yw bod pob unigolyn yn cefnogi ei gilydd ac yn gwneud ei orau i wneud gwaith yn well.

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl:

“Fe hoffem longyfarch The Wallich.

“Mae achrediad aur ar gyfer ‘Rydym yn buddsoddi mewn pobl’ yn ymdrech wych gan unrhyw sefydliad, ac mae’n rhoi The Wallich mewn cwmni da gyda llu o sefydliadau sy’n deall gwerth pobl.”

textimgblock-img
Wrth sôn am y wobr, dywedodd Tom Hall, Cyfarwyddwr Pobl a Thalent y Wallich:

“Mae’r wobr Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn gymeradwyaeth wych i’r gwaith caled y mae pawb ar draws y sefydliad yn ei wneud er mwyn sicrhau bod The Wallich yn rhywle y gall pawb gael cefnogaeth, yn ogystal â rhagori o fewn y sefydliad.

“Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr hon.

“Mae’n dangos y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n ein gwneud ni’n sefydliad y mae pobl eisiau gweithio iddo.

“Mae’r Achrediad Aur hwn yn ein helpu i ddangos i’n staff a darpar ymgeiswyr pa fath o gyflogwr ydyn ni, ac i ddangos bod hwn yn rhywle y byddai pobl yn dymuno aros ynddo.

“Gobeithio y bydd y wobr hon hefyd yn rhoi sicrwydd i’r holl staff presennol bod amrywiaeth o gyfleoedd datblygu a chymorth da ar gael.

“Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar yr argymhellion a’r gwelliannau a awgrymwyd yn yr adroddiad, a byddwn yn anelu at y sgôr uchaf, sef Platinwm!”

Gwybodaeth am sefydliad Buddsoddwyr mewn Pobl

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio tua 80,000 o oriau yn y gwaith yn ystod ein hoes.

Am rywbeth sy’n cymryd cymaint o’n hamser, mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn credu ein bod yn haeddu cael mwy na slip cyflog yn unig yn ei sgil.

Mae’r sefydliad yn helpu dros 11 miliwn o bobl ar draws 75 o wledydd i wneud gwaith yn well.

Er ein bod wrth ein bodd â’r achrediad Aur, mae gennym ni gyfres o argymhellion a chynllun gweithredu er mwyn i ni allu parhau i wneud newidiadau a dal ati i wella’r sefydliad i’n staff.

Tudalennau cysylltiedig