Tom Hall (Fe)

Cyfarwyddwr Pobl a Thalent

| 02921 508 818
Cyfarwyddwr Pobl a Thalent

Cyn gweithio yn The Wallich, fydden i ddim wedi dychmygu y byddwn i’n cwrdd â grŵp mor amrywiol a hyfryd o bobl â’r rheini rydyn ni’n eu cefnogi.

Dechreuodd Tom ei yrfa yn The Wallich fel gweithiwr prosiect yng Ngheredigion.

Ers hynny, mae wedi cael profiad amrywiol yn The Wallich, fel rhan o’n tîm gwirfoddoli, y tîm Tai Cymunedol ac, ers 2014, yn yr adrannau Adnoddau Dynol.

Mae achrediadau proffesiynol Tom yn cynnwys gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac mae’n Aelod Cyswllt o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Yn swydd bresennol Tom fel Cyfarwyddwr Pobl a Thalent, mae’n gyfrifol am y canlynol:

  • Gweithredu’r strategaeth Pobl a Thalent
  • Ymgorffori pob agwedd ar brofiad y gweithiwr o’r cam cyn-recriwtio i’r cam ôl-gyflogaeth

Mae gan Tom gyfrifoldeb cyffredinol dros y canlynol:

  • Cysylltiadau gweithwyr
  • Iechyd a lles
  • Recriwtio
  • Datblygu talent
  • Perfformiad
  • Gwirfoddolwyr allanol

O ganlyniad i’w daith amrywiol gyda The Wallich, mae Tom wedi gweld â’i lygaid ei hun yr amrywiaeth o wasanaethau rhagorol rydyn ni’n eu darparu, yn ogystal â’r ymroddiad a’r gwaith gwych mae ein cydweithwyr ledled yr holl wasanaethau a’r adrannau yng Nghymru yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Mae’n bleser gweithio gyda phob person sy’n dod drwy ein drysau, er ei bod yn hynod siomedig bod angen gwasanaeth fel ein un ni o gwbl.

Arbenigedd

  • Cyflogaeth

Tudalennau cysylltiedig