The Wallich yn cyfrannu at adroddiad newydd y Senedd ar ddigartrefedd

Ymateb The Wallich

16 Mar 2023

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Angen

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2023 gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru.

Canfuwyd bod gwasanaethau dan bwysau mawr oherwydd y lefelau uchaf erioed o alw, yn enwedig ar gyfer cymorth a llety dros dro.

Mae’r ffigurau swyddogol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru (o fis Rhagfyr 2022 ymlaen) yn dangos bod 9,247 o bobl mewn llety dros dro, gyda mwy o bobl yn gofyn am lety nac oedd yno o bobl yn symud o lety dros dro yn llwyddiannus bob mis.

Y gwir amdani yw nad oes digon o dai addas ar gyfer pobl yn y system digartrefedd, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a landlordiaid y sector preifat er mwyn cynyddu’n sylweddol y nifer o dai sydd ar gael.

Darparodd The Wallich dystiolaeth ysgrifenedig gyda Thomas Hollick, ein Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus yn darparu tystiolaeth ar lafar i’r ymchwiliad.

Argymhellion yr adroddiad

Rydyn ni’n croesawu’r 24 o argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd yn eu derbyn ac yn eu rhoi ar waith.

Dyma rai o’r argymhellion sy’n arbennig o berthnasol i’n gwaith ni yn The Wallich:

textimgblock-img

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu sut mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod pobl sy’n aros mewn llety dros dro yn cael gwybod am eu statws, gan gynnwys pa mor hir y bydd hi’n ei chymryd cyn y bydd llety parhaol ar gael.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio ar frys i’r hyn y gellir ei wneud i wella’r safonau mewn llety dros dro.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar bob cyfle er mwyn sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd i atal digartrefedd.

Argymhelliad 10

Rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu’r dyraniad ar gyfer y Grant Cymorth Tai cyn gynted â phosibl, gan ystyried lefel uchel chwyddiant a’r galw am wasanaethau digartrefedd.

Argymhelliad 16

Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa gamau mae’n eu cymryd i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i gynyddu cyfradd y Lwfans Tai Lleol i 30ain canradd rhent y farchnad leol o leiaf.

Argymhelliad 19

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried pob opsiwn ar gyfer cynyddu’r nifer o letyau un ystafell wely sydd ar gael mewn lleoliadau priodol.

Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa ddata mae’n ei gasglu am dai cymdeithasol gwag, gan gynnwys yr amser a gymerodd i ailosod tai pan fyddant yn dod yn wag.

The Wallich yn galw am fwy o ddarpariaeth digartrefedd

Mae ein staff yn gwneud gwaith anhygoel mewn prosiectau ar hyd a lled Cymru, gan gefnogi pobl ym mhob rhan o’r system ddigartrefedd. Mae eu gwaith yn cynnwys y canlynol:

Roedd ein holl wasanaethau’n parhau ar agor drwy gydol y pandemig, ond mae’r galw mawr am wasanaethau’n golygu bod angen buddsoddi nawr yn fwy nag erioed.

Yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24, mae Llywodraeth Cymru wedi rhewi’r cyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai. Fodd bynnag, rydyn ni’n credu bod angen codi’r cyllid hwnnw ar frys er mwyn gwella lefelau cyflogau staff wrth iddyn nhw barhau i ddarparu cymorth hanfodol i’r sawl sydd fwyaf mewn angen.

Darllenwch ein llythyr at y Gweinidog yn galw am roi terfyn ar rewi cyllid Grant Cymorth Tai yma

Rydyn ni wrthi’n trawsnewid gwasanaethau tuag at fodel ailgartrefu cyflym yng Nghymru, lle tybir bod pawb sy’n gofyn am lety yn ‘barod ar gyfer tenantiaeth’ ar yr amod eu bod yn cael y cymorth cywir. Byddan nhw’n cael eu lleoli ar unwaith mewn cartref newydd.

Rydyn ni yn The Wallich yn gwbl gefnogol i’r dull gweithredu hwn. Fodd bynnag, bydd angen parhau i fuddsoddi mewn llety dros dro hyd nes y bydd mwy o gartrefi newydd addas ar gael yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.

Mae’n bosibl trawsnewid i ailgartrefu cyflym, ond mae angen buddsoddi a chanolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth er mwyn gwireddu hyn i bobl sy’n ddigartref yng Nghymru.

Tudalennau cysylltiedig