Tîm Cwpan y Byd Digartref 2023: Cwrdd â phobl o The Wallich sydd wedi’u dewis ar gyfer Tîm Cymru

16 Jun 2023

Mae tîm Pêl-droed Stryd Cymru yn hedfan i Sacramento, Califfornia i ddathlu 20 mlynedd ers Cwpan y Byd Digartref

Mae Cwpan y Byd Digartref yn dwrnamaint pêl-droed blynyddol sy’n ceisio cefnogi ac ysbrydoli pobl sydd wedi profi digartrefedd i feithrin sgiliau i newid eu bywydau eu hunain, yn ogystal ag addysgu a newid canfyddiadau pobl o ddigartrefedd ledled y byd.

Mae 2023 yn nodi 20 mlynedd ers dechrau Cwpan y Byd Digartref, a ddechreuodd am y tro cyntaf yn Awstria yn 2003.

textimgblock-img

Er ei fod yn ddigwyddiad blynyddol, nid oedd modd cynnal nifer o dwrnameintiau oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Cafodd Cwpan y Byd Digartref (yr 17eg) ei chynnal ddiwethaf yn 2019, yn hyfrydwch Parc Bute ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd.

Chwaraeodd The Wallich ran allweddol yng ngŵyl bêl-droed 2019, gan ddarparu cyngor, cymorth llesiant a bod yn wyneb croesawgar a hawdd ei adnabod i fwy na 430 o bobl.

Mae’r 18fed twrnamaint yn cael ei gynnal rhwng 8 a 15 Gorffennaf 2023 yn Stadiwm Hornet yn Sacramento, Califfornia ym mis Gorffennaf. Dyma’r tro cyntaf i Gwpan y Byd Digartref goncro’r Unol Daleithiau.

Mae tîm Cymru yn cael ei hyfforddi a’i drefnu gan Bêl-droed Stryd Cymru. Mae timau dynion, menywod a chymysg yn cwrdd bob wythnos i gicio pêl yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Treffynnon, Merthyr a Hwlffordd.

Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn elusen sy’n cynnig cyfleoedd i bobl sydd wedi cael eu hynysu a’u heithrio’n gymdeithasol, gan ddarparu lle diogel a chynhwysol i chwarae pêl-droed, gwneud cysylltiadau a meithrin hyder.

Mae angen iddynt godi £35,000 i dalu am y treuliau sydd eu hangen i gael y tîm i’r twrnamaint yn Sacramento.

Cwrdd â phobl o The Wallich sydd wedi’u dewis ar gyfer Tîm Cymru

Mae The Wallich yn gweithio’n agos gyda Pêl-droed Stryd Cymru drwy amrywiol nawdd a chymorth arall.

Wrth gynnal sesiynau galw heibio amrywiol ledled Cymru, mae’n gyffredin i ddefnyddwyr gwasanaethau The Wallich gymryd rhan yn y sesiynau hyn i roi hwb i’w llesiant corfforol a meddyliol, yn ogystal â bod yn rhan o gamp maen nhw’n angerddol amdani.

Eleni, fel rhan o dîm cenedlaethol Pêl-droed Stryd Cymru, mae’n wych cyhoeddi y bydd Stephen, un o aelodau staff The Wallich, a Jamie, un o’r defnyddiwr gwasanaethau a gefnogir ganddo, yn teithio i Sacramento fis nesaf i chwarae dros Gymru a’i chynrychioli.

textimgblock-img

Mae Stephen yn Uwch Weithiwr Cymorth ar gyfer prosiect GIFT yn The Wallich yn y Rhyl. Nod ein gwasanaeth GIFT yw cefnogi pobl sy’n ddigartref neu sy’n cael trafferthion gyda thenantiaeth.

Dywedodd Ste: “Fe wnes i roi cynnig arni yn y rowndiau cymhwyso oherwydd rydw i’n credu’n gryf mewn gweithgareddau grŵp, maen nhw’n helpu llawer gydag iechyd meddwl a hyder. Felly, fe wnes i roi cynnig arni i weld ydy hyn yn weithgaredd y gallaf ei awgrymu i’r bobl rydw i’n cefnogi.”

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Sacramento, dydw i erioed wedi bod yn America o’r blaen ac alla i ddim aros i fod yn rhan o dîm Cymru.”

Gan wybod am fanteision chwaraeon tîm a gweithgareddau corfforol, fe wnaeth Stephen annog Jamie i fynd gydag ef i gemau Pêl-droed Stryd Cymru.

textimgblock-img

Mae Jamie’n byw mewn llety dros dro yn y Rhyl, ac mae’n defnyddio gwasanaethau The Wallich ers dechrau 2022.

Dywedodd Jamie: “I fod yn onest, mae fy nhaith wedi bod yn anhygoel. Rydw i wrth fy modd yn teithio i lawr gyda Ste ac un o’r hyfforddwyr, James.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael y cyfle i fynd i America, heb sôn am gynrychioli tîm Cymru. Felly ydy, mae’r teimlad yn anhygoel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr.”

Mae The Wallich eisiau dymuno pob lwc i Dîm Cymru – mae’n gamp anhygoel.

Os ydych chi eisiau dilyn twrnameintiau Cwpan y Byd Digartref a hynt tîm Cymru, dilynwch  Pêl-droed Stryd Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook.

Tudalennau cysylltiedig