Gwasanaethau GIFT y Rhyl

UNIT C, Kinmel Business Centre, Tir Llwyd Enterprise Park, Kinmel Bay, LL18 5JZ

Sir Ddinbych

01745 345 500

Mae ein gwasanaethau GIFT y Rhyl yn cynnig ystod eang o wasanaethau a phrosiectau i helpu pobl sy’n ddigartref neu sy’n cael anawsterau â thenantiaethau

Rydym yn gweithio ag awdurdodau lleol, landlordiaid, ac asiantaethau eraill i helpu pobl ddod o hyd i lety addas a fforddiadwy yn ogystal ag i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gadw tenantiaeth fel y byddant yn byw bywydau mwy diogel, hapus ac annibynnol.

Rydym yn cydnabod bod gan grwpiau gwahanol anghenion gwahanol ac rydym yn llunio cynlluniau cymorth yn benodol ar gyfer gofynion yr unigolyn.

GIFT – Gwasanaeth i Deuluoedd

Prosiect cymorth fel bo’r angen i deuluoedd yn Sir Ddinbych sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yw Gwasanaeth Teuluoedd GIFT.

Darperir cymorth fel arfer am hyd at 12 mis a gall fod ar gyfer materion amrywiol.

Y nod yw helpu teuluoedd i ddod o hyd i denantiaeth neu ei chadw.

GIFT – Gwasanaeth Anghenion Dwys

Mae ein prosiect GIFT – Anghenion Dwys yn cynnig cymorth dwys i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nod y gwasanaeth yw galluogi pobl i gael tenantiaeth a’i chadw.

Mae’n helpu pobl sydd angen llawer iawn o gymorth, ac sy’n methu â chael mynediad at fathau eraill o gymorth er mwyn cadw llety.

Cynigir cymorth i bobl sy’n byw yn Sir Ddinbych am hyd at 12 mis fel arfer. Does dim gwahaniaeth beth yw eu hoed na beth yw eu sefyllfa o ran plant dibynnol.

GIFT

GIFT – Gwasanaeth i Bobl Ifanc

Mae ein Gwasanaeth Pobl Ifanc GIFT yn cynnig cymorth i bobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, gyda’r bwriad o alluogi pobl i gael tenantiaeth a’i gynnal.

Cynigir cefnogaeth i bobl ifanc 16-25 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sydd heb blant dibynnol.

Disgwylir y bydd y cymorth yn para am lai na 12 mis.

Rydym yn gwerthfawrogi bod gan bobl ifanc anghenion gwahanol i grwpiau eraill sydd angen cymorth ac rydym yn gweithio i ddarparu atebion addas i’r unigolyn.

GIFT – Gwasanaeth i rai dros 25 oed

Mae GIFT – Gwasanaeth i rai dros 25 oed yn cynnig cymorth yn gysylltiedig â thai sydd wedi’i deilwra ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gyda’r bwriad o alluogi pobl i gael tenantiaeth a’i chadw.

Cynigir cymorth i rai dros 25 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sydd heb blant dibynnol.

Disgwylir y bydd y cymorth yn para am lai na 12 mis.

Rydym yn cydnabod bod gan wahanol grwpiau anghenion gwahanol ac rydym yn creu cynlluniau cymorth penodol ar gyfer gofynion yr unigolyn.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig