Mae TMHCC wedi cyfrannu cyfanswm o £10,000 i’r Wallich, fel rhan o’u hymgyrch Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol i fuddsoddi mewn lliniaru digartrefedd.
Roedd y Wallich yn cefnogi 72 o bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y chwarter diwethaf (Mawrth – Mehefin 2019) – cynnydd o 23% ar nifer y bobl a gafodd gymorth ganddynt yn ystod yr un chwarter y llynedd.
Dydy pobl sy’n byw ar y stryd ddim yn gallu cael rhywbeth mor syml â chawod yn aml iawn.
Bydd y Wallich yn defnyddio cyfran o’r rhodd i uwchraddio’r gwasanaethau cawod yn eu canolfan galw heibio pwrpasol, sydd ar gael i unrhyw un sy’n ddigartref alw yno i gael eu hatgyfeirio, i gael cyngor ynghylch tai, iechyd neu les neu i gael help i wneud apwyntiadau.
I nifer o bobl, mae canolfan y Wallich yn nodwedd gyson a dibynadwy yn eu bywydau, sy’n aml yn llawn anhrefn. Bydd gweddill y £10,000 yn mynd tuag at dalu am lety mewn argyfwng.
Dywedodd Mike Walmsley, rheolwr codi arian corfforaethol y Wallich
“Mae Tokio Marine HCC wedi ymddiried ynom ni i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio eu rhodd hael. Dyna pam rydyn ni wedi penderfynu uwchraddio’r gawod sylfaenol sydd gennym ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystafell wlyb go iawn. Gobeithio y bydd pobl sy’n byw ar y stryd yn gallu mwynhau cawod braf yn breifat er mwyn iddyn nhw allu wynebu’r heriau sydd o’u blaenau.”
Dywedodd Ian Rowles, rheolwr gyfarwyddwr TMHCC Pen-y-bont ar Ogwr
“Fel rhan o raglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol Tokio Marine HCC, roedd y staff yn y swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi sylw ar y nifer cynyddol o bobl ddigartref yn ne Cymru ac wedi pleidleisio dros y Wallich fel ein helusen leol ar gyfer 2019.
Mae’n bleser mawr gennym gyfrannu, gan wybod y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai hynny sydd mewn angen, yn ein cymuned ni.”
Mae’r Wallich yn gweithio ledled Cymru, ond mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl sy’n ddigartref neu mewn cartrefi lle maent yn agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd yn mynd allan bob bore i roi diodydd poeth, bwyd, darpariaethau a chyngor hanfodol i bobl sy’n cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr; gan gefnogi tua 16 o bobl sy’n cysgu ar y stryd bob dydd ar gyfartaledd.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth allgymorth hanfodol, mae gan y Wallich hostelau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae nifer yn benodol i anghenion fel llety i bobl ifanc a hostelau i deuluoedd.
Mae’r tîm hefyd yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r sector rhentu preifat drwy gyfrwng y bwrdd bondiau a chymorth arbenigol sy’n berthnasol i dai.